Mae deifwyr gwirfoddol o’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol wrthi’n cofnodi’r bywyd môr sydd bellach yn byw ar longddrylliadau’r Rhyfel Mawr.
Mae’r arolygon hyn yn dangos sut mae riff artiffisial yn datblygu. Yr organebau cyntaf i gyrraedd yw larfau morol sy’n denu rhywogaethau eraill drwy ddarparu cyflenwad bwyd. Ar y llongddrylliadau yn nyfroedd Cymru mae’r ecosystemau sy’n datblygu yn aml yn cynnwys sbyngau, hydroidau, anemonïau môr, bryosoaid a gwlithenni môr. Mae’n well gan y rhain lynu wrth arwynebau caled ac nid ydynt yn ffynnu ar wely môr tywodlyd neu leidiog.
Fel rheol mae heigiau o bysgod i’w gweld yn nofio ger y llongddrylliadau, gan eu defnyddio fel noddfa neu gynefin parhaol.
Gall y bywyd môr ar longddrylliadau ac o’u cwmpas gynyddu bioamrywiaeth leol yn sylweddol.