Dechreuwyd y rhyfel ar y môr gan Brydain pan ddatganodd fod Môr y Gogledd yn ardal frwydro ac y byddai’n cipio unrhyw lwythi a oedd ar eu ffordd i’r pwerau canolog (Yr Almaen, Awstria-Hwngari a Thwrci). Ymateb yr Almaen oedd datgan ardal frwydro fwy byth, a oedd yn cwmpasu’r holl ddyfroedd o gwmpas Prydain Fawr ac Iwerddon, gyda’r amcan o atal cyflenwadau rhag cyrraedd Prydain o America a’r trefedigaethau Prydeinig.
Ym mis Chwefror 1917, datganodd yr Almaen y byddai cyfnod newydd o ryfela dilyffethair yn dechrau ac y byddai ei llongau tanfor yn ymosod ar unrhyw long o eiddo’r Cynghreiriaid neu unrhyw long niwtral y deuent ar eu traws. Y cynllun oedd gorfodi Prydain i ildio cyn yr hydref 1917 drwy suddo traean o’r llongau a oedd yn ei chyflenwi. O ganlyniad i gymryd y cam enbyd hwn fe gynyddodd nifer y colledion yn nyfroedd Cymru yn sylweddol o fis Chwefror 1917 ymlaen.