Perygl Anweledig

Efallai yr hoffech chi hefyd

Prif gryfder llongau tanfor wrth ymosod oedd eu bod yn anweledig i longau masnach pan oeddynt yn rhannol neu’n gyfan gwbl o dan y dŵr. Roedd yn arbennig o anodd gweld perisgopau mewn moroedd garw a phan oedd yr haul y tu ôl iddynt, ond gellid gweld amlinell llong fasnach yn glir yn erbyn y gorwel.

Roedd gan y Morlys sawl argymhelliad a dull i helpu capteiniaid llongau masnach i amddiffyn eu llongau. Gallent hwylio ar gwrs igam-ogam i’w gwneud eu hunain yn darged anos. Gallai eu llongau gael eu paentio mewn cuddliw dallu i wneud eu maint a’u siâp yn llai amlwg ac i’w gwneud hi’n anos i’r gelyn amcangyfrif eu cyflymder ac i ba gyfeiriad yr oeddynt yn teithio.

Hefyd cafodd gynnau eu gosod ar ddeciau llawer o longau masnach a darparwyd nifer bach o forwyr y Llynges i’w defnyddio. Câi capteiniaid llongau masnach eu hannog i fod yn fwy ymosodol a cheisio bwrw llongau-U a oedd yn eu bygwth.