Mewn llyfryn swyddogol a gyhoeddwyd adeg dadorchuddio Cofeb Ryfel Sir Gâr ym 1924 fe restrir enwau 1,913 o ddynion a menywod o’r sir a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Yn sgil gwaith ymchwil gan Brosiect Cofebau Gorllewin Cymru, mae’r ffigur hwnnw bellach yn 2,700 o ddynion a menywod. Yn eu plith y mae hanner cant o bobl o Lanelli a Phorth Tywyn y gwyddom iddynt gael eu lladd wrth wasanaethu gyda’r Llynges Frenhinol a’r Llynges Fasnachol. Gartref fe wnaeth Llanelli gyfraniad pwysig i’r ymdrech ryfel – agorodd ffatri TNT Nobel ym Mhen-bre ym 1914 a’r Llanelly Shell Factory ym Machynys ym 1915. Cafodd gweithwyr ffatri eu hannog i dyfu llysiau a ffrwythau yn eu gerddi, i gefnogi’r ymgyrchoedd codi arian ‘Ymlaen Llanelli’, ac i ddarparu adloniant ar gyfer milwyr clwyfedig mewn ysbytai lleol.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan Morrigan Mason & Elin Jones. Ar y cyd ag Amgueddfeydd Sir Gâr.