Cafodd Gustav Pritshow ei eni ger Magdeburg yn Sacsoni Prwsaidd ym 1860. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn llongwr yn Llynges Fasnach Prydain. Ar ôl y rhyfel, derbyniodd Gustav ddwy fedal mewn cydnabyddiaeth o’i wasanaeth. Yn y 1920au bu’n gweithio ar y PAYS DE WAES a’r KHARTOUM.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan Gwerfyl T. Gregory. Ar y cyd ag Amgueddfa Forwrol Llŷn.