• Home 2
  • ‘Mab Glöwr’ o Flaenafon a’r UB 91

‘Mab Glöwr’ o Flaenafon a’r UB 91

Efallai yr hoffech chi hefyd

Mae Diwrnod y Cadoediad yn coffáu’r diwrnod y daeth y Rhyfel Mawr i ben, ond dylid cofio 21 Tachwedd 1918 hefyd fel y diwrnod yr ildiodd Llynges Ymerodrol yr Almaen. Ar ôl y rhyfel anfonwyd llawer o longau tanfor yr Almaen i gael eu torri’n ddarnau, ond cyn gwneud hynny rhoddwyd criwiau Prydeinig mewn rhai ohonynt ac aethant ar deithiau i borthladdoedd ym Mhrydain i helpu i godi arian i elusennau llongwyr. Dyna sut y daeth William Brookes, a anwyd ym Mlaenafon ym 1887, yn gapten dros dro yr UB 91. Roedd wedi listio yn y Llynges Frenhinol ym 1902 ac roedd ganddo hanes gwasanaeth neilltuol. Yn ystod y rhyfel bu’n gwasanaethu ar longau tanfor, sef y NAUTILUS a’r C 6, a derbyniodd Seren 1914-15, Medal Rhyfel Prydain a’r Fedal Buddugoliaeth.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Tim Dowle with images supplied by Brian Rendell and Trevor Williams. Ar y cyd ag Friends of Newport Ship.