Roedd goblygiadau ehangach i ymgais y tri swyddog Almaenig i ddianc. Ym mis Mawrth 1915, rhoddodd Bernd Wegener, Capten yr U 27, gynnig ar lwybr newydd drwy Sianel y Gogledd sy’n gwahanu Gogledd Iwerddon a’r Alban er mwyn profi pa mor ymarferol fyddai achub y carcharorion. O ganlyniad fe agorwyd Môr Iwerddon i batrôls gan longau tanfor y gelyn.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan: Thomas Jeffers, Amgueddfa’r Ffrynt Cartref, Llandudno, a mynychwyr y Prynhawn Ymchwil, 5 Mehefin 2018. Ar y cyd ag Cyngor Bwrdeistref Sirol CONWY.