Daeth y gwasanaethau post a fferi rhwng Iwerddon a Chymru yn darged arbennig i longau tanfor yr Almaen o 1917 ymlaen gan i’r llongau ddechrau cludo niferoedd mawr o bersonél milwrol. Roedd y LEINSTER yn eiddo i’r City of Dublin Steam Packet Company (CoDSPCo) a fuasai’n cludo’r post rhwng Kingstown (Dún Laoghaire bellach) a Chaergybi ers 1850. O ganlyniad, roedd cysylltiad arbennig wedi datblygu rhwng y ddau borthladd gan fod criwiau’r cwmni’n dod o’r trefi hyn. Mae log y LEINSTER yn dangos iddi ddod wyneb yn wyneb â llongau-U o’r blaen, er enghraifft, ‘Night Sailing. December 27, 1917. Torpedo missed by yards’. Gadawodd y LEINSTER Kingstown (Dún Laoghaire bellach) am Gaergybi am y tro olaf ar 10 Hydref 1918, a chafodd ei suddo’n fuan wedyn gan yr UB 123. Roedd suddo’r LEINSTER yn ergyd chwerw iawn i’r ddwy gymuned arforol.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan Barry Hillier. Ar y cyd ag Amgueddfa Arforol Caergybi.