Cafodd Porth Coffa Dewrion Gogledd Cymru ym Mangor ei gwblhau ym 1923. Mae’n coffáu’r holl bobl o ogledd Cymru a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cefnogwyd adeiladu’r gofeb gan lawer o berchenogion llongau ac roedd y Prif Weinidog, David Lloyd George, yn un o’i noddwyr.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan Nêst Thomas. Ar y cyd a STORIEL, Bangor.