Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe gafodd poblogaeth Sir Benfro ei chyfoethogi gan bobl o wledydd tramor a oedd wedi dod yno o ganlyniad i’r rhyfel. Cyrhaeddodd y mwyafrif llethol o’r grwpiau hyn ar longau. Priododd rhai ohonynt yn lleol ac mae eu disgynyddion yn byw yn Sir Benfro heddiw, yn dystiolaeth o waddol parhaol y Rhyfel Byd Cyntaf.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan Simon Hancock. In association with Amgueddfa Tref Hwlffordd.