Ym mis Awst 1915, Llandudno oedd lleoliad ymgais gan long-U i achub carcharorion Almaenig. Roedd tri swyddog o’r Almaen, Herman Tholens, Heinrich von Hennig a Lefftenant von Helldorff, wedi’u carcharu yng Ngwersyll Carcharorion Rhyfel Dyffryn Aled yn Llansannan. Buont yn defnyddio negeseuon wedi’u codio i drefnu man cyfarfod gyda llong-U oddi ar Benygogarth.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan: Thomas Jeffers, Amgueddfa’r Ffrynt Cartref, Llandudno, a mynychwyr y Prynhawn Ymchwil, 5 Mehefin 2018. Ar y cyd â Cyngor Bwrdeistref Sirol CONWY.