• Home 2
  • Llynges Fasnachol Caerdydd yn Dioddef yn Enbyd

Llynges Fasnachol Caerdydd yn Dioddef yn Enbyd

Efallai yr hoffech chi hefyd

Ar drothwy’r rhyfel, roedd masnach lo Caerdydd yn ei hanterth, gyda 10.5 miliwn tunnell fetrig o lo yn cael eu hallforio bob blwyddyn; roedd mwy na 100 o fusnesau allforio glo yn y ddinas a rhyw 70 o gwmnïau a oedd yn rheoli 300 a rhagor o longau. Yn ystod y rhyfel cafodd o leiaf 200 o’r llongau hyn eu suddo, y mwyafrif o ganlyniad i ymosodiadau gan longau-U, a chafodd yn agos at 1,000 o fywydau eu colli. Yn ogystal â chael eu suddo o amgylch arfordir Ynysoedd Prydain, cafodd nifer eu colli ym Môr y Canoldir ac oddi ar Norwy. Roeddynt yn cario llwythi fel gwenith, siwgr, mwyn haearn, dur, olew, cyflenwadau milwrol ac, wrth gwrs, glo. Ar ddechrau ymgyrch llongau-U yr Almaen, byddai rhybudd yn cael ei roi fel rheol i alluogi’r criw i ddianc ar y badau achub ond, ym mis Chwefror 1917, datganodd yr Almaenwyr eu bwriad i gynnal ‘rhyfel dilyffethair gan longau tanfor’ a dechreuwyd tanio torpidos at longau a saethu arnynt yn ddirybudd. Cafodd 124 o longau wedi’u cofrestru yng Nghaerdydd eu colli ym 1917 yn unig.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Tiger Bay and the World.