Cafodd Arthur Rowland Jones (1880–1918) ei eni yn Lerpwl. Roedd yn fab i Margaret Jones a’r capten Rowland Jones. Ym 1905 fe briododd ag Elizabeth Lunn, a deng mlynedd yn ddiweddarach roeddynt yn byw gyda’u mab Rowland (ganwyd 1910) yn Ffynnongroyw, ger Prestatyn. Fel ei dad, roedd Arthur Rowland yn gwneud ei fywoliaeth ar y môr.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan Eifion a Viv Williams. Ar y cyd a Flintshire War Memorials 1914-1918.