Sgwneri yn y Rhyfel

Efallai yr hoffech chi hefyd

Gyda dechrau’r rhyfel ym 1914 daeth y fasnach lechi bwysig iawn â Hamburg a’r Baltig i ben. Erbyn i ryfela dilyffethair gan longau tanfor yr Almaen ddechrau yn gynnar ym 1917, dim ond ychydig o longau a oedd yn dal ym meddiant perchnogion lleol. Gan fod y cychod hwylio hyn yn dargedau hawdd i’r llongau-U, roedd dynion yn amharod I hwylio arnynt, ac ni fyddai ganddynt griw llawn yn aml. Cafodd chwech ohonynt eu suddo gan y gelyn a phan ddaeth y rhyfel i ben dim ond yr ELIZABETH a’r DAVID MORRIS oedd ar ôl. Y chwe sgwner o Borthmadog a suddwyd gan y gelyn:

● ELIZABETH ELEANOR adeiladwyd 1903. Capten John Mathias Jones, Cricieth. Cafodd ei stopio a’i suddo gan ynnau 77 milltir i’r gogledd-orllewin x gorllewin o Trevose Head ar 13 Mawrth 1917 gan yr U 70, KapLt Otto Wünsche.
● ELLEN JAMES adeiladwyd 1904. Capten Richard Cadwalader Jones, Cricieth. Cafodd ei stopio a’i suddo gan ynnau i’r gorllewin o Ushant ar 3 Ebrill 1917 gan yr UC 71, KapLt Hans Valentiner.
● JOHN PRITCHARD adeiladwyd 1906. Capten William Watkin Roberts, Pentrefelin. Cafodd ei stopio a’i suddo i’r dwyrain o Ynys Paxos, Groeg ar 30 Mawrth 1916 gan y k.u.k. U 4 (Awstriaidd), LSL Rudolf Singule.
● MARY ANNIE adeiladwyd 1893. Cafodd ei stopio a’i suddo 28 milltir i’r de-dde-orllewin o Beachy Head ar 25 Mawrth 1917 gan yr UC 69, KapLt Erwin Waßner.
● MISS MORRIS adeiladwyd 1896. Capten William O. Morris, Porthmadog. Cafodd ei stopio a’i suddo 20 milltir i’r de-ddwyrain o Garrucha, Sbaen ar 11 Ebrill 1917 gan yr U 35, KapLt Lothar von Arnauld de la Perière.
● ROBERT MORRIS adeiladwyd 1876. Capten David Davies, Cricieth. Cafodd ei stopio a’i suddo 155 milltir i’r gorllewin-dde-orllewin o Bishop Rock ar 20 Tachwedd 1917 gan yr U 90, KapLt Walter Remy.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Robert Cadwalader. Ar y cyd ag Amgueddfa’r Môr Porthmadog.