• Home 2
  • Noddfa a Bethel Llongwyr John Cory, Aberdaugleddau: Hafan Ddiogel

Noddfa a Bethel Llongwyr John Cory, Aberdaugleddau: Hafan Ddiogel

Efallai yr hoffech chi hefyd

Adeiladwyd Noddfa a Bethel Llongwyr John Cory ym 1907 i ddarparu lloches a chysur i “ddynion y môr” a oedd wedi cael eu cludo i Borthladd Aberdaugleddau ar ôl cael eu llongddryllio. Yn ystod y rhyfel fe ddaeth y Bethel yn noddfa i gannoedd o ddynion, menywod a phlant – criwiau a theithwyr o 148 o longau a gafodd eu suddo gan longau tanfor oddi ar arfordir Sir Benfro. Roedd angen dillad, bwyd a llety arnynt, a chymorth meddygol yn aml. Cafodd nifer o’r goroeswyr eu holi yn y Bethel gan ohebwyr papurau newydd, a chofnodir eu profiadau erchyll isod.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Helen Rowe. Ar y cyd a CBHC.