• Home 2
  • Ardal Porthmadog a’r Rhyfel ar y Môr: Sgrapio’r UB 98 ym Mhorthmadog

Ardal Porthmadog a’r Rhyfel ar y Môr: Sgrapio’r UB 98 ym Mhorthmadog

Efallai yr hoffech chi hefyd

Ar ddiwedd y rhyfel, cafodd holl longau tanfor yr Almaen, rhyw 200 ohonynt, ei hildio. Gorffennodd yr UB 98 ei hoes ym Mhorthmadog a chafodd y cyhoedd fynd ar ei bwrdd am dâl bach. Cafodd y llong danfor ei sgrapio ym 1922, ond mae rhai darnau ohoni i’w gweld hyd heddiw. Cafodd Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion, nytiau efydd i wneud garlantau addurnol ar gyfer cofeb ryfel Llanfrothen. Defnyddiwyd llenni o fetel wrth wneud twnnel ar Reilffordd Ffestiniog a rhannau o falfiau wrth adeiladu cynlluniau trydan-dŵr bach yn yr ardal.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Robert Cadwalader. Ar y cyd ag Amgueddfa’r Môr Porthmadog.