
Gweithdy Gwaddol Deuddydd y Prosiect Llongau-U
Gwahoddiad i chi fynychu Gweithdy Gwaddol y Prosiect Llongau-U!
Dewch i ymuno â thîm y Prosiect Llongau-U yn ein Gweithdy Gwaddol deuddydd am ddim ym Mhorthaethwy ar 7-8 Medi.
Wedi’i seilio ar eich adborth, bydd y penwythnos yn llawn dop o wahanol sesiynau a fydd o ddiddordeb a defnydd ymarferol i’r sectorau treftadaeth ac arforol fel ei gilydd. Bydd y llu o bynciau y rhoddir sylw iddynt yn cynnwys cynyddu cynulleidfaoedd, denu cynulleidfaoedd mwy amrywiol, allbynnau digidol, ac arolygu ac ecoleg llongddrylliadau. Fe fydd cyfle i fynd ar y llong arolygu y PRINCE MADOG, gweld labordai’r Ysgol Eigioneg, a mwynhau arddangosfa’r Prosiect Llongau-U yn y lleoliad prydferth hwn ar Afon Menai.
Prif siaradwyr:
Victoria Rogers,Amgueddfa Caerdydd – Denu cynulleidfaoedd mwy niferus ac amrywiol – gwersi gan Amgueddfa Caerdydd
Julie Satchell, Yr Ymddiriedolaeth Archaeoleg Forwrol – Prosiect Llongddrylliadau Anghofiedig y Rhyfel Byd Cyntaf a safbwynt y DU ar brosiectau archaeolegol morol coffa
Gweithdy Gwaddol Rhaglen – Legacy Workshop Programme
Gyswllt ar gyfer cofrestru ar-lein isod: https://ti.to/digital-past/Gweithdy-Gwaddol-Prosiect-Llongau-U-2019