Ewch ar Ddeif Rithwir i Weld Llongddrylliadau’r Rhyfel Byd Cyntaf

  • Home 2
  • Ewch ar Ddeif Rithwir i Weld Llongddrylliadau’r Rhyfel Byd Cyntaf
Model 3D llongdrylliad y DRINA

Ewch ar Ddeif Rithwir i Weld Llongddrylliadau’r Rhyfel Byd Cyntaf

Category: Newyddion

Ganol mis Mehefin, fe gynhaliodd y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol ysgol faes yn Abercastell, Sir Benfro mewn partneriaeth â’r Prosiect Llongau-U 1914-18. Cafodd bron 100 o ddeifwyr o’r DU a’r Iseldiroedd gyfle i archwilio llongddrylliad y LEYSIAN a oedd wedi taro yn erbyn y clogwyni o dan amgylchiadau amheus ar 20 Chwefror 1917. Ymgymerodd mynychwyr yr ysgol faes â’r arolwg archaeolegol morwrol cyntaf o weddillion y LEYSIAN a chynhaliwyd cyrsiau i ddeifwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd.

Model 3D llongdrylliad y DRINA
Deif rhithwir i llongdrylliad y DRINA.

I’r sawl na lwyddodd i fynychu’r ysgol faes neu sydd ddim yn ddeifiwr, ond sy’n ymddiddori yn nhreftadaeth forwrol Cymru, mae’r Prosiect Llongau-U bellach yn cynnig cyfle digyffelyb i weld rhai o longddrylliadau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar ein gwefan.

Ar ddeif rithwir, gallwch archwilio modelau rhyngweithiol 3D o’r llongddrylliadau. Wrth i chi nofio o gwmpas y llongau a’u harchwilio o bob ochr, bydd mannau poeth yn eich arwain at nodweddion sydd o ddiddordeb arbennig. Bydd ffenestri neidio-i-fyny yn dangos ffotograffau hanesyddol, cynlluniau neu luniadau o’r llongau, a nodiadau eglurhaol.

Ffenestr neidio-y-fyny llongddrylliad y PENSHURST
Ffenestr neidio-y-fyny yn y model llongddrylliad rhithwir y PENSHURST.

Ar eich deif rithwir, darganfyddwch sut beth oedd bywyd ar fwrdd yr U 87, un o longau tanfor yr Almaen. Darganfyddwch sut y cuddiodd y PENSHURST ei gynnau o fewn cychod plygadwy, ac archwiliwch olion drylliedig a gwasgaredig y DRINA.