Terfysgoedd Hil Caerdydd: Hanesion Atgyweiriol – gan Gaynor Legall

  • Home 2
  • Terfysgoedd Hil Caerdydd: Hanesion Atgyweiriol – gan Gaynor Legall

Terfysgoedd Hil Caerdydd: Hanesion Atgyweiriol – gan Gaynor Legall

Category: Newyddion

Ym 1987 cymerais ran mewn ffilm o’r enw Tiger Bay is my Home. Roedd yn un o bedair ffilm, wedi’u comisiynu gan y Sefydliad Cysylltiadau Hiliol, a wnaed gan Colin Prescod. Cafodd y ffilmiau eu dangos fel rhan o gyfres ar Sianel 4 a oedd yn olrhain y cerrig milltir ym mrwydr pobl Groenddu am gyfiawnder a chydraddoldeb. Teitl y gyfres oedd Struggles for Black Communities a chanolbwyntiodd Tiger Bay is my Home ar y gymuned yng Nghaerdydd a gâi ei galw’n gynt yn Tiger Bay, sef Tre-biwt erbyn heddiw,. Mewn un rhan o’r ffilm, mae tair hen wraig yn siarad am y Terfysgoedd Hil yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1919.

Yn llawer diweddarach, meddai Colin Prescod, a oedd bryd hynny yn gadeirydd y Sefydliad Cysylltiadau Hiliol [yn y brif araith i gynhadledd flynyddol 2016 Cymdeithas Archifau a Chofnodion y DU ac Iwerddon, yn dwyn y teitl ‘Global futures: reflecting our path ahead’, a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Awst 2016]:

‘Mae teitl eich cynhadledd, ‘Global Futures’, wedi fy arwain i feddwl am y cysylltiad rhwng y dyfodol a’r gorffennol a’r presennol, ac am yr hyn sy’n fyd-eang mewn materion lleol ac yn lleol mewn materion byd-eang. Felly byddaf yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y lleol a’r byd-eang, gan roi sylw i faterion damcaniaethol a phroffesiynol.’ Yn ei araith, bu Colin Prescod yn trafod ei ymwneud ei hun â cherrig milltir diweddar yn hanes treftadaeth ddiwylliannol pobl Groenddu y DU a’r ffyrdd y mae archifyddion, curaduron a haneswyr wedi ymateb i’r cerrig milltir hyn. Siaradodd am ‘hanesion atgyweiriol’ a heriodd archifyddion i ganiatáu i bobl Groenddu gymryd rhan mewn creu’r cofnod yn hytrach na dim ond ‘cynnwys’ eu profiad [Mehefin 1, 2017 — Race & Class Blog, gan Colin Prescod]

Hanesion Atgyweiriol. O’r diwedd yr oedd gen i derm proffesiynol ei naws am yr hyn yr oeddwn yn ei feddwl ac yn ei deimlo am fy hanes, yr hanes ‘a adroddwyd’, hanes bywydau fy nheulu. Hanesion Atgyweiriol – i wneud iawn am y celwyddau a’r bylchau a’r cofnodi camarweiniol a oedd wedi llurgunio hanes poblogaeth Groenddu Prydain, a Chymru’n benodol. Mae Tiger Bay is my Home yn dangos bod yna gymunedau Croenddu yng Nghaerdydd yn y 19eg ganrif, fel yn nhrefi porthladd eraill, a oedd wedi ffurfio wrth i longwyr croenddu o’r trefedigaethau ddod iddynt o’r porthladdoedd y byddai llongau glo Prydain yn masnachu â nhw. Dangosodd y ffilm fod ymdeimlad o ymlyniad a pherthyn ymhlith y rheiny a gawsai eu geni a’u magu yn Tiger Bay a sut yr oedd pobl o wahanol wledydd a chrefyddau wedi cymysgu ac ymgartrefu yng Nghaerdydd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Rhoddodd sylw hefyd i hanes eu plant a phlant eu plant yn y 1980au.

Yn eu hanterth, roedd dociau Caerdydd yn allforio tuag 11 filiwn o dunelli metrig o lo y flwyddyn. Roedd glo De Cymru yn debyg i beth yw olew heddiw – y tanwydd a yrrai’r byd – ac wrth i’r llongau hwylio i bedwar ban byd byddent yn codi criw o wahanol wledydd: Cape Verde, Somalia, ynysoedd y Caribî fel Jamaica, Barbados, Trinidad, St Lucia, St Kitts a Honduras Brydeinig. Cyn ac yn ystod y ddau Ryfel Byd daeth llawer o Iddewon o Rwsia a Dwyrain Ewrop i Gaerdydd i ddianc rhag erledigaeth. Y gymuned Arabaidd sydd wedi ymsefydlu hiraf yn y DU yw’r Yemeniaid, a buont yn ymgartrefu yng Nghaerdydd ers y 19eg ganrif ar ôl i ddinas Aden yn Yemen ddod o dan reolaeth y Prydeinwyr ym 1839. Fe ddaeth pobl o’r Eidal a China hefyd. Byddai llawer ohonynt yn priodi merched lleol ac yn codi teuluoedd yn Tiger Bay neu’n mynd adref i briodi ond yn gadael eu gwragedd a’u plant yn eu gwledydd eu hunain.

Byddai’r gymuned fach yn Tiger Bay, yn gymysgedd o’r holl elfennau uchod, yn sefyll yn un yn erbyn hiliaeth, yn wyneb dirmyg a difaterwch, ac yn crafu byw drwy weithio ar y llongau masnach neu drwy waith corfforol caled.

Tyfais i fyny’n gwrando ar storïau am y gorffennol ac am y Terfysgoedd Hil. Dechreuodd y Terfysgoedd Hil yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1919 a bu iddynt bara am 4 diwrnod brawychus. Ychydig iawn sydd wedi’i ysgrifennu am y terfysgoedd hyn o safbwynt y bobl a oedd yn byw yn Tiger Bay a dydw i ddim wedi darllen dim sy’n adrodd yr hanes a glywais gan fy Mam-gu a’i chwaer.

Dywedasant sut y byddent yn rhoi rhwystrau yn erbyn y drws ffrynt bob nos ac yn mynd â cherrig a brics i’r pengrisiau. Pan ofynnais pam, dywedasant pe bai’r terfysgwyr yn llwyddo i fynd dros y bont a thorri i mewn i’r tŷ fe fydden nhw’n gallu taflu cerrig i lawr ar eu pennau. Soniasant sut y byddent yn gwnïo pocedi y tu mewn i gotiau’r dynion er mwyn iddynt allu cuddio cyllyll neu ddrylliau. Roedd yn rhaid i’r dynion eu hamddiffyn eu hunain a’u teuluoedd rhag y gangiau.

Gofynnais pwy oedd yn y gangiau? Dywedasant mai dynion gwyn oedd y terfysgwyr a oedd yn rhoi’r bai ar bobl liw oherwydd nad oedd ganddynt swyddi neu gartrefi iawn. Dywedodd Mam-gu fod ei thŷ yn syrthio’n ddarnau a ddim yn balas o bell ffordd. Ble roedden nhw’n meddwl ein bod ni’n byw? Roedden ni i gyd yn yr un cwch.

Cofiasant Mrs Hon a’r Llall [fydden nhw byth yn crybwyll enwau o flaen y plant] a oedd wedi anwybyddu cyngor ei chymdogion ac wedi mynd â’i phlentyn mewn pram i’r dref i siopa. Ymosodwyd arni a chafodd y pram ei droi drosodd gan daflu’r baban i’r stryd.

Siaradwyd am y dynion a fyddai’n eu trefnu eu hun ac yn cymryd eu tro i warchod y bont i rwystro’r terfysgwyr rhag dod i mewn i Tiger Bay.

Gwrandewais a dysgais am y ddrwgdybiaeth ddofn o swyddogion yn gyffredinol a’r heddlu’n benodol a sut yr oedd penaethiaid yr Undebau y tu cefn i’r cyfan. Roeddwn  wedi fy nghyfareddu gan yr atgofion bryd hynny ac mae’r diddordeb wedi parhau, ond hyd yn ddiweddar dydw i ddim wedi dod ar draws llawer o bobl eraill yng Nghaerdydd sy’n gwybod am helbulon 1919.

Yr hyn yr ydw i yn ei wybod, ar ôl darllen ac ymchwilio’n helaeth, yw mai llongwyr oedd y rhan fwyaf o’r dynion croendywyll a arestiwyd, sef y swydd fwyaf cyffredin yn y farchnad lafar ar gyfer dynion tramor. Roedd y dynion gwyn a arestiwyd, ar y llaw arall, yn gweithio mewn amrywiaeth o alwedigaethau dosbarth gweithiol, yn enwedig llafurio a gwaith anfedrus arall.

Byddai undeb y morwyr nid yn unig yn gwrthwynebu cyflogi llongwyr Croenddu, ond hefyd yn cynllwynio yn y dirgel i’w darostwng i safle israddol. Roedd eu hamodau gwaith yn wael iawn a byddid yn manteisio arnynt drwy roi cyflogau is a thasgau anos iddynt. Mewn ymateb i hyn fe gafodd Undeb y Morwyr Croendywyll ei sefydlu ym 1931.

Yn wyneb yr holl rethreg filain ynghylch Brexit, byddaf yn meddwl am y cysylltiad rhwng y dyfodol a’r gorffennol a’r presennol, ac am yr hyn sy’n fyd-eang mewn materion lleol ac yn lleol mewn materion byd-eang. Fe wynebodd trigolion Tiger Bay gyni, arwahanu ac esgeulustod bob dydd gan yr awdurdodau. Buont yn byw drwy derfysgoedd a chynllun i anfon y dynion yn ôl i’w mamwledydd. Buont yn byw drwy’r streic fawr a’r dirwasgiad, ac yn gwasanaethu ac yn marw mewn dau ryfel byd – ein gorffennol o fewn sefyllfa fyd-eang, gwladychu, anfon yn ôl, yr Ymerodraeth. Ein dyfodol, ein presenoldeb – yn parhau i gael ei gwestiynu, yn parhau’n ansicr.

Mater o dristwch ac o ddicter i mi yw’r ffaith nad oes cofnod iawn o bobl y gymuned hon – o’u bywydau, eu brwydrau a’u cyfraniadau i Gymru. Nid oes plac i’w coffáu, nac adran mewn gwerslyfr hanes, a dim ond ychydig o bobl sydd ar ôl bellach i drosglwyddo’r gwirionedd am sut y bu i’r trigolion fyw a marw yn ystod y dyddiau tywyll hynny ym 1919.

Ond rhaid i ni sicrhau bod y gwirionedd yn cael ei gofnodi, bod Hanesion Atgyweiriol yn dod yn rhan o’n haddysg brif ffrwd. Nid yw ‘rhag ofn i ni anghofio’ am arwyr colledig y rhyfeloedd yn unig.

 

Gaynor Legall

Cadeirydd

The Heritage & Cultural Exchange

Mehefin 2019

 

 

Mae staff y Prosiect Llongau-U yn gweithio gyda chymunedau ar hyd a lled Cymru i adrodd storiau lleol am i rhyfel ar y môr. Un o’n partneriaid yw The Heritage & Cultural Exchange (Tiger Bay & the World) sy’n weithgar yn ardal amlhiliol Tre-biwt, Caerdydd, yr effeithiwyd arni mewn llawer ffordd yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mis Ionawr, rhoddodd Gaynor Legall, Cadeirydd yr Exchange, sgwrs yn The National Archives mewn digwyddiad a fu’n edrych ar rôl llongwyr DAELl (BAME) yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mis Mehefin, roedd yr Exchange yn gysylltiedig â choffáu’r terfysgoedd hil yng Nghaerdydd ym Mehefin 1919, pan gynhaliwyd digwyddiad theatraidd gwefreiddiol, cyfres o sgyrsiau ac arddangosfa. Ym mis Rhagfyr, bydd yr Exchange a’r Prosiect Llongau-U yn cynnal arddangosfa ar y cyd yn adeilad eiconig y Pierhead ym Mae Caerdydd sy’n adrodd hanes y llongwyr o Tiger Bay drwy gyfrwng delweddau ac arlunwaith a gynhyrchwyd gan y gymuned.


                                        
                        
                    
Tags,