Mae Rebecca Carlton yn ysgrifennu am ei gwaith fel myfyrwraig gyda’r Prosiect Llongau-U

  • Home 2
  • Mae Rebecca Carlton yn ysgrifennu am ei gwaith fel myfyrwraig gyda’r Prosiect Llongau-U
Multibeam image of the SS DRINA wreck.

Mae Rebecca Carlton yn ysgrifennu am ei gwaith fel myfyrwraig gyda’r Prosiect Llongau-U

Category: Newyddion

Fy enw i yw Rebecca. Rydw i yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewis Sant, Campws Llanbedr Pont Steffan, yn dilyn cwrs treftadaeth. Rydw i wedi bod ar leoliad yn y Comisiwn Brenhinol sydd yn awr yn dod at ei derfyn. Mae fy nghyfnod yn y Comisiwn wedi bod yn ddifyr, amrywiol a hynod ddiddorol. Rydw i wedi bod yn gweithio ar un o’i brosiectau, sef Prosiect Llongau-U 1914-18: Coffáu’r Rhyfel ar y Môr. Gweithio gyda thîm y Prosiect Llongau-U a staff y Comisiwn fu un o uchafbwyntiau fy ail flwyddyn. Yn ogystal â dod i ddeall sut mae gwasanaeth archifau’n gweithio a dysgu am waith y Comisiwn, rydw i wedi bod yn rhan o dîm y Prosiectau Llongau-U, ac wedi mwynhau’n arw yr awyrgylch cartrefol a chyfeillgar.

Roedd fy ngwaith gyda thîm y Comisiwn yn cynnwys dwy brif dasg. Y dasg gyntaf a phwysicaf oedd ailstrwythuro’r data a oedd yn cael eu casglu am y llongau yr oedd y llongau-U wedi ymosod arnynt, a rhoi cyfeirnod unigryw i bob ffeil. Pan fydd y prosiect yn cyrraedd y cam terfynol ar ddiwedd y flwyddyn, fe fydd y strwythur newydd hwn yn ei gwneud hi’n haws archifo’r data a’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Mae’r data hyn yn cynnwys ffeiliau ar y llongddrylliadau, rhestri criwiau’r llongau, bywyd morol ar y llongddrylliadau, a gwybodaeth arall megis erthyglau mewn papurau newydd sy’n disgrifio sut y cafodd llongau eu taro a’u suddo.

Fy ail brif dasg, drwy gydol fy nghyfnod yn y Comisiwn, fu helpu i uwchlwytho erthyglau papur newydd i wefan Casgliad y Werin Cymru (dolen) am y llongau a’r llongau-U y bu iddynt ran yn y rhyfel ar y môr ar hyd arfordir Cymru.

Wrth wneud copïau digidol o’r deunydd, fe ddeuthum o hyd i ychydig o eitemau a ddaeth yn gryn ffefrynnau. Yr eitem gyntaf yw fideo o’r deifiau i lawr at yr FV CARTAGENA sy’n dangos sut mae’r llongddrylliad yn edrych heddiw a’r bywyd morol sydd i’w gael ar longddrylliadau.

Gwnaed y fideo yn ystod yr ysgol faes a gynhaliwyd mewn partneriaeth â’r NAS yr oedd y CARTAGENA yn ganolbwynt iddi. Rydw i wrth fy modd gyda Hanes Morwrol ac yn mwynhau astudio llongddrylliadau gan fod modd casglu cymaint o wybodaeth wrth wneud. Maen nhw’n cynnig tystiolaeth o newidiadau mewn llongau a masnachu ar hyd y canrifoedd ac yn dangos crefftwriaeth y bobl a adeiladodd y llongau. Mae’r fideos hyn o ddiddordeb i mi hefyd gan eu bod yn dangos y creaduriaid a phlanhigion sy’n byw o gwmpas y llongddrylliadau a bywyd morol arall fel cwrelau sy’n ymgartrefu arnynt.

Delwedd amlbaladr o longddrylliad yr SS DRINA.
Delwedd amlbaladr o longddrylliad yr SS DRINA.

Ffefryn arall yw’r ddelwedd amlbaladr o’r SS DRINA. Mae’r holl ddata amlbaladr a gasglwyd gan SEACAMS yn anhygoel, ond yr SS DRINA yw fy ffefryn gan i’r llong, yn wahanol i’r lleill, dorri’n ddau ddarn wrth suddo. Mae gweld y ddelwedd a chael argraff o sut mae’r llong yn edrych ar wely’r môr yn brofiad syfrdanol.

Hoffwn ddiolch yn bersonol i dîm cyfan y Prosiect Llongau-U yn y Comisiwn Brenhinol am amser bythgofiadwy.

Rebecca Carlton

Hoffai pob aelod o dîm y Prosiect Llongau-U ddiolch i Rebecca am yr amser mae hi wedi’i dreulio gyda ni. Bydd ei gwaith yn ein helpu i archifo’r prosiect ar ôl i ni orffen gweithio ar y llongddrylliadau a bydd yn sicrhau y gall ymwelwyr â’r Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil a defnyddwyr archifau’r Comisiwn Brenhinol yn gallu astudio ein cofnodion yn y dyfodol.