
Yr SS LEYSIAN a’r Gyrwyr Mulod o America
Rhwng 7 a 17 Mehefin, bydd un o’n partneriaid yn y Prosiect Llongau-U, y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol (NAS), yn cynnal ysgol faes danddwr yn Abercastell, Sir Benfro. Canolbwynt yr ysgol faes fydd llongddrylliad yr SS LEYSIAN a gafodd ei dryllio yno ar 20 Chwefror 1917.

Hanes cryno’r LEYSIAN
Rhwng 1915 a 1917 câi’r SS LEYSIAN ei defnyddio i gludo mulod (croesiad rhwng ceffyl ac asyn) o New Orleans, UDA, i gefnogi’r milwyr ar y ffrynt yn Ewrop a gogledd Affrica. Byddai gyrwyr mulod o America yn gofalu am y mulod yn ystod y fordaith.
Ar 20 Chwefror 1917, ar ôl dadlwytho cargo o fulod yn Belfast, roedd y LEYSIAN yn dychwelyd i America dan falast pan gafodd ei dryllio ar y clogwyni ym Mae Abercastell.

Y gred yw bod tua 50 o yrwyr mulod ar fwrdd y llong, yr oedd Americanwyr croenddu yn eu plith mae’n debyg, wedi gwrthryfela.
Bywyd gyrrwr mulod ar fwrdd llong

Mae cytundeb llong ar gyfer y LEYSIAN dyddiedig Mehefin 1915 yn rhestru enwau 63 o yrwyr mulod Americanaidd. Mae’r nodiadau mewn llawysgrifen ar dudalen flaen y cytundeb yn cynnwys y cyfarwyddiadau canlynol i’r gyrwyr mulod:
-
- Roeddynt i ufuddhau i orchmynion y capten neu’r swyddog â gofal.
- Roeddynt i roi bwyd a dŵr i’r mulod a chadw’r stablau mewn cyflwr ardderchog gan ddilyn cyfarwyddyd y fforman â gofal.
- Roeddynt i fwydo’r mulod nes iddynt adael y llong ac i roi pob cymorth wrth ddadlwytho’r anifeiliaid, ac roeddynt yn gyffredinol i ddilyn holl gyfarwyddiadau’r capten neu’r swyddog a oedd yn gyfrifol am y llong.
- Ar ôl dadlwytho’r mulod roeddynt i lanhau’r stablau’n drwyadl.
- Byddai lwfans o ugain swllt y mis yn cael ei dalu am fentro eu bywydau i bob llongwr heblaw am farchogion a gweithredwyr Marconi.
Mae manylion diddorol iawn am fywyd gyrwyr mulod ar fwrdd y llongau i’w cael mewn datganiad gan J. M. Garret, gyrrwr mulod ar y NICOSIAN a gipiwyd gan long-U ym 1915. Meddai:
Roedd y cytundeb yn gofyn i mi roi porthiant a dŵr i’r anifeiliaid a glanhau’r stolion ar orchymyn y fforman neu gapten y llong. Pe byddwn i’n methu â dilyn gorchymyn byddwn i’n cael dirwy o ddoler am bob trosedd.
Roedd gofyn i bob gyrrwr mulod ofalu am ryw ddeuddeg i ugain o anifeiliaid. Roeddynt wedi’u cyfyngau i’w stolion ac ni châi’r rhain eu glanhau nes i’r mulod adael y llong. Roedd pared o blanciau pren rhwng y stablau a’r lleoedd cysgu ac roedd yr arogl yn ffiaidd.
Y gwely oedd bync o blanciau gyda matres llawn naddion coed drosto, un flanced wlân a chlustog naddion. Y bwyd oedd tatws o Iwerddon, cig wedi difetha, a chawl pys. Coffi yn y bore a the yn y nos, ac un fynsen fach ddwywaith y dydd, un yn y bore ac un yn y nos. I ginio fe fyddem ni’n cael cwpan tun o gawl pys, sleisen fach o gig, a thair neu bedair o datws. Brecwast oedd cwpan o goffi a bynsen fach. I swper byddem yn cael te a thatws wedi’u stiwio. Cig eidion oedd y cig i fod. Ond rwy’n amau hynny.
Darllenwch y datganiad llawn yma: http://www.vlib.us/wwi/resources/archives/texts/t050925/Baralong.html
Ar ôl dadlwytho’r mulod yn Belfast, roedd y LEYSIAN yn dychwelyd gyda’r gyrwyr mulod i America i nôl llwyth arall o fulod.
Cafodd mwy na 600,000 o geffylau a mulod eu cludo ar longau Prydeinig o America yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw tua 2,700 o’r anifeiliaid hyn pan suddwyd y llongau roeddynt yn teithio arnynt gan longau-U a llongau rhyfel eraill. Ystyriwyd eu bod yn gargo ac nid colledigion. I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.nam.ac.uk/explore/british-army-horses-during-first-world-war

Rhai ffeithiau
Marwolaeth gyrrwr mulod ar y LEYSIAN – Cafodd J Macdonald, o Newport News, gyrrwr mulod ar y LEYSIAN, ei foddi ar 21 Rhagfyr 1915. Ni wyddom ddim am yr amgylchiadau.
Yr SS ARMENIAN – Cafodd ugain gyrrwr mulod croenddu Americanaidd ar yr ARMENIAN, un o deithlongau cwmni White Star, eu lladd ar 28 Mehefin 1915 pan ymosododd yr U 24 ar y llong. Cafodd y llong, a oedd yn cario cargo o 1,422 o fulod i’r fyddin, ei suddo oddi ar arfordir Cernyw. Y gred yw bod y gyrwyr mulod wedi boddi gan iddynt ddewis aros gyda’u mulod yn hytrach na dianc gyda gweddill y criw. I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.wrecksite.eu/wreck.aspx?11109
Dedfrydu gyrrwr mulod am lofruddiaeth: Cafodd Young Hill, gyrrwr mulod croenddu o America, ei ddedfrydu i grogi am lofruddio llongwr croenddu arall ar 29 Gorffennaf 1915 pan oedd eu llong wedi’i hangori yn Canada Dock, Lerpwl. Argymhellodd y rheithgor y dylid dangos trugaredd gan ei fod yn ddinesydd Americanaidd. I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://raceanddeathpenalty.wordpress.com/2018/10/04/younghill/
O feysydd cotwm y de, UDA: Yn ystod y cyfnod hwn, mulod dan ofal Americanwyr croenddu a weithiai’r rhan fwyaf o’r meysydd cotwm. Sefydlodd asiant Prydain arolygiaeth ar gyfer prynu mulod yn Nashville, Tennessee ym mis Medi 1915. O’r Unol Daleithiau y daeth y mwyafrif llethol o’r mulod a ddefnyddiwyd gan y Prydeinwyr. Cafodd cannoedd ar filoedd ohonynt eu cludo i Ewrop ar longau o New Orleans a Newport News. Bu farw llawer ohonynt ar fwrdd llongau a suddwyd gan longau-U, gan gynnwys yr SS ARMENIAN (ym 1915) a’r SS JAPANESE PRINCE (ym 1917).
Cafodd mwy na 600,000 o geffylau a mulod eu cludo ar longau Prydeinig o America yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw tua 2,700 o’r anifeiliaid hyn pan suddwyd y llongau roeddynt yn teithio arnynt gan longau-U a llongau rhyfel eraill. I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.nam.ac.uk/explore/british-army-horses-during-first-world-war
Bydd un o’n partneriaid yn y Prosiect Llongau-U, y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol (NAS), yn cynnal ysgol faes danddwr yn Abercastell, Sir Benfro. Canolbwynt yr ysgol faes fydd llongddrylliad yr SS LEYSIAN a gafodd ei dryllio yno ar yr 20fed o Chwefror 1917.
Dewch i ddarganfod mwy am ysgol faes danddwr yr SS LEYSIAN yn Abercastell, Sir Benfro ac am y Prosiect Llongau-U. Bydd tîm y prosiect yno rhwng 9.30 a 4.30 ar dydd Sadwrn 15 a dydd Sul 16 Mehefin. Arddangosiadau a gweithgareddau hwyliog i bob oedran!