
Darganfod Arwyr Aberdaugleddau: Rhan 2
Sut beth oedd bywyd i ddynion y ganolfan lyngesol?
Un agwedd gyffredin ar fywyd y dynion oedd disgyblaeth a rheoliadau’r Llynges. O olchi gwisgoedd swyddogol i gael caniatâd i fod yn absennol, roedd bob amser gyfarwyddyd gan yr Is-Lyngesydd Dare ynghylch y drefn gywir i’w dilyn. Roedd gwaharddiad llwyr ar fynychu’r tri thafarndy yn y dref. Roedd llawer o lythyron Dare yn ymwneud â digwyddiadau diweddar, er enghraifft, roedd un am y nifer fawr o docynnau rheilffordd am ddim a roddwyd heb reswm da cyn 7 Mehefin 1916.
Yn ogystal â’r staff a anfonai negeseuon papur di-ddiwedd Dare, roedd peirianwyr yn y ganolfan a oedd yn gyfrifol am atgyweirio’r llongau. Byddent yn cyflawni llu o dasgau, fel adnewyddu hydroffonau, glanhau boeleri a gosod gynnau newydd ar dreill-longau arfog, ac roedd yn amlwg eu bod yn gweithio’n galed iawn.

Byddai’r is-lyngesydd yn gweithredu’n llym pe bai unrhyw gamgymeriadau’n dod i’w sylw. Câi carfanau cyfan o bersonél y ganolfan eu ceryddu am siarad esgeulus a diffyg disgyblaeth mewn mannau cyhoeddus. Pan fyddai llongau’r Llynges yn ymarfer tanio eu gynnau y tu allan i’r ardal ddynodedig, byddai ei ymateb yn gyflym a ffyrnig.
Mae’n ymddangos bod iechyd yn bryder i rai, gan i nifer sylweddol o ddynion fanteisio ar wasanaeth deintyddion preifat (yn ddiangen ym marn Dare).
I’r rheiny a wasanaethai ar y llongau, roedd anaf neu angau yn fygythiad go iawn. Roedd yn hollol bosibl i griw cyfan gael ei golli. Mae tynged yr HMS PRIZE ym 1917 yn dangos hyn yn glir. Ar ôl ymosod ar yr U 93, nid oedd y criw yn sylweddoli bod y llong danfor wedi dianc ac wedi rhoi gwybod i forlys yr Almaen am fodolaeth y llong-Q. Yn fuan wedyn, ymosodwyd ar y PRIZE gan yr U 48 a lladdwyd pawb ar ei bwrdd.

Sut bynnag, mae’n debyg nad oedd bywyd y dynion a wasanaethai yn y canolfannau llyngesol yn ddiflastod i gyd. Ganrif ar ôl y digwyddiadau hyn, mae’n bosibl gweld ochr fwy doniol. Yn sicr, roedd rhai o’r rheoliadau a gyflwynwyd yn ymwneud â sefyllfaoedd eithaf anarferol. Er enghraifft, mae un llythyr yn cyfarwyddo llongwyr i osgoi anfon eu dillad budr neu bysgod drwy’r post.
Roedd yr Is-Lyngesydd Dare hefyd yn barod i roi cyngor buddiol ar ymdrin â materion peryglus. Mae dogfennau o’r ganolfan yn cofnodi’r cyngor a roddodd ar sut i drin ffrwydron tanddwr neu sut i gael gwared â ffrwydron nofio Almaenig. Pa un a oedd gan y dynion brofiad o’r materion hyn ai peidio, mae’n bosibl bod cyngor o’r fath yn gysur i’r llongwyr ifancach a oedd yn gwasanaethu ar slwpiau a threill-longau clirio ffrwydron yn y Dynesfeydd Gorllewinol. Efallai bod bywyd yn galed, ond fe wnaeth y Llynges yr hyn a allai i ofalu am ei dynion.
Fel rhan o wythnos o weithgareddau i ddathlu hanes llyngesol a morwrol Aberdaugleddau, bydd arddangosfa’r Prosiect Llongau-U 1914-18 yn cael ei dangos yng Ngwesty’r Lord Nelson, Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3AW o Ddydd Mercher 29 Mai hyd Ddydd Gwener 31 Mai 2019.
Geoffrey Hicking, Ymchwilydd, Y Prosiect Llongau-U 1914-18