Dangos Arddangosfa’r Prosiect Llongau-U yn ystod Wythnos Darganfod Aberdaugleddau

  • Home 2
  • Dangos Arddangosfa’r Prosiect Llongau-U yn ystod Wythnos Darganfod Aberdaugleddau
Prosiect Llongau-U Yn Coffau'r Rhyfel ar y Mor

Dangos Arddangosfa’r Prosiect Llongau-U yn ystod Wythnos Darganfod Aberdaugleddau

Category: Newyddion

Fel rhan o wythnos o weithgareddau i ddathlu hanes llyngesol a morwrol Aberdaugleddau, bydd arddangosfa’r Prosiect Llongau-U 1914-18 yn cael ei dangos yng Ngwesty’r Lord Nelson, Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3AW o Ddydd Mercher 29 Mai hyd Ddydd Gwener 31 Mai 2019.

Dewch i weld arddangosfa lawn y Prosiect Llongau-U sy’n datgelu canlyniadau syfrdanol arolygon newydd o longddrylliadau o gyfnod y Rhyfel Mawr. Mae’r arddangosfa’n cynnwys animeiddiadau a modelau 3D ac yn adrodd storïau a aeth yn angof ond sydd wedi’u darganfod eto gan grwpiau cymunedol ar hyd a lled Cymru.

‘Mae arddangosfa’r Prosiect Llongau-U yn astudiaeth weledol hynod ddiddorol o effaith y rhyfel ar y môr ar Gymru … mae’n haeddu cartref parhaol mewn lleoliad amlwg.’ J D Davies, hanesydd ac awdur morwrol.

Bydd tîm y Prosiect Llongau-U wrth law i ateb cwestiynau ac i ddarparu gweithgareddau i’r teulu sydd wedi’u seilio ar yr arddangosfa.

Gwesty’r Lord Nelson
Enw gwreiddiol gwesty’r Lord Nelson oedd y ‘New Inn’, ond cafodd ei ailenwi ar ôl ymweliad gan yr Arglwydd Nelson ym 1802. Dewch i weld arddangosfa’r Prosiect Llongau-U 1914-18 yn Ystafelloedd Trafalgar y gwesty o 10 y bore bob diwrnod. Ffynhonnell: CBHC

Mae’r wythnos o ddigwyddiadau sy’n cael ei chydlynu gan Lannau Aberdaugleddau yn cynnwys teithiau tywys sy’n cychwyn o Ganolfan Dreftadaeth Doc Penfro; sgyrsiau yn y Ganolfan Dreftadaeth gan Dr Simon Hancock ar Longau’r Llynges a adeiladwyd yn Neyland yn y 18fed ganrif a chan Dr Innes MacCartney ar yr HMS WARRIOR 1905; arddangosiadau a gweithdai yn Amgueddfa Cymdeithas Treftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru yn Iard Hancock; a theithiau o Lannau Aberdaugleddau ar yr MV DISCOVERY i weld bywyd gwyllt y môr. Gellir gweld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau drwy ddilyn y cyswllt hwn: https://www.milfordwaterfront.co.uk/blog/posts/2019/may/discover-our-historic-haven/