Myfyrwyr o Norwy ym Mhrifysgol Aberystwyth yn helpu i ddatgelu hanes y JANVOLD

  • Home 2
  • Myfyrwyr o Norwy ym Mhrifysgol Aberystwyth yn helpu i ddatgelu hanes y JANVOLD
Multicoloured scan of the JANVOLD on the sea bed

Myfyrwyr o Norwy ym Mhrifysgol Aberystwyth yn helpu i ddatgelu hanes y JANVOLD

Category: Newyddion

Y JANVOLD, llong a gofrestrwyd yn Norwy, yw un o’r llongddrylliadau sydd wedi’i gynnwys yn ein harolygon ar gyfer ‘Prosiect Llongau-U Cymru,1914-18: Coffáu’r Rhyfel ar y Môr’. Mae’r safle’n rhoi cyfle i ni ymchwilio i effaith y llongau-U ar longau’n perthyn i genhedloedd niwtral a barhâi i ddefnyddio porthladdoedd Cymru.

Diolch i gymorth myfyrwyr Norwyaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fu’n astudio dogfennau hanesyddol yn Norwy yn ystod gwyliau’r haf, gallwn yn awr ddatgelu stori o ddewrder neilltuol.

Mae’r ffotograff hwn o’r JANVOLD yn dangos y camau a gymerwyd gan y perchnogion i atal ymosodiadau ar y llong – cafodd enw’r llong, o ba wlad roedd yn dod (gwlad niwtral), a baneri Norwy eu paentio’n glir ar ei hochrau. Ffynhonnell: Llun drwy gwrteisi Uboat-Net.

Cafodd y JANVOLD ei hadeiladu ym 1904 gan Grangemouth & Greenock Dockyard Co ar Afon Clud.  Perchennog olaf y llong oedd Johs Larsen, Bergen. Roedd Julius Christopher Meyer, capten y JANVOLD, yn llongwr profiadol iawn. Ar ben hynny, roedd criw’r llong wedi cael hyfforddiant ar beth i’w wneud pe bai llong danfor yn ymosod.

Ym mis Ebrill 1917, ymosodwyd ar y llong wrth iddi fynd i achub criw’r SS POITIERS. Roedd y JANVOLD yn hwylio o Bilbao i Gaerdydd, gyda chargo o fwyn haearn, pan deimlwyd ysgytiad mawr drwy’r llong. Bu bron i’r criw lansio’r badau achub, ond yna sylweddolwyd nad y JANVOLD oedd wedi cael ei tharo ond agerlong arall gerllaw, sef yr SS POITIERS, wedi’i chofrestru yn Ffrainc.

Gadawodd Meyer ei griw yn y badau achub lle roeddynt yn ddiogel a, gyda’r 2il Beiriannydd yn unig ar fwrdd y llong, yn ystafell yr injanau, fe lywiodd y JANVOLD at griw’r POITIERS a oedd yn y dŵr. Aeth torpido heibio i du blaen y JANVOLD. Cafodd ail agerlong, a thrydedd un, eu suddo nid nepell i ffwrdd yn ystod yr amser yr oedd y JANVOLD yn achub ei llond bad cyntaf o forwyr. Yna penderfynodd Meyer fynd â’r JANVOLD i’r dŵr basach islaw Hartland Point oddi ar arfordir Dyfnaint i aros am y badau achub a oedd wrthi’n codi mwy o oroeswyr. Saethodd torpidos eraill heibio i’w blaen a’i starn gan daro’r lan.

Mae’r arolwg amlbaladr o’r JANVOLD a wnaed gan Brifysgol Bangor ym 2018 yn dangos bod rhan ôl a starn y llong wedi dymchwel i raddau helaeth oherwydd y difrod a achoswyd gan y torpido. Ffynhonnell: Prifysgol Bangor.

Wrth gyflwyno adroddiad am y digwyddiad ym mis Gorffennaf 1918, rhoddodd Meyer glod i’w griw am fod mor effeithlon a hunanfeddiannol – yn enwedig William Kihl, y Swyddog 1af, Olaf Saetre, yr 2il Swyddog, Bernard Hansen, y Prif Beiriannydd, Elis Fahlstrom, yr 2il Beiriannydd ac Evald Anderse, y Stiward.

Roedd yr aelodau criw hyn ar fwrdd y JANVOLD ar ei thaith dyngedfennol olaf. Ar 26 Mai 1917 roedd yn hwylio heibio i Ynys Enlli am tua 4 o’r gloch y bore pan gafodd rhan ôl y llong ei tharo gan dorpido. Cafodd y goroeswyr eu hachub gan y llong hebrwng, HMT LORD ALLENDALE. Chwiliodd am ddwy awr arall am y pedwar dyn a oedd ar goll cyn dychwelyd i Aberdaugleddau.

Yn Norwy, daeth y myfyrwyr o hyd i Adroddiad ar yr Ymchwiliad i’r suddo, felly gallwn yn awr roi enwau’r pedwar llongwr a gollodd eu bywydau: Bernhard Hansen, y Prif Beiriannydd, o Bergen, 46 oed; Haakon Kristiansen, Llongwr, o Holmestrand, 33 oed; Aksel Bruvik, Taniwr, o Bruvik ger Bergen, 25 oed; ac Emilio Lascano, Llongwr, a anwyd ym 1897 yn Buenos Aires.

Hoffem ddiolch yn arbennig i Preben Vangberg, Johan Dyrnes Hansen a Mari Aasland o Brifysgol Aberystwyth.

Darllen Pellach:
Haug, Karl Erik: Norway , in: 1914-1918-online. International Encyclopedia of the First World War, ed. by Ute Daniel, Peter Gatrell, Oliver Janz, Heather Jones, Jennifer Keene, Alan Kramer, and Bill Nasson, issued by Freie Universität Berlin, Berlin 2016-01-19. DOI10.15463/ie1418.10809.

 

Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n caniatáu i’r Gronfa fuddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni . www.hlf.org.uk. Dilynwch Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar TwitterFacebook ac Instagram