
Ysgol Faes y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol: Abercastell, 7–17 Mehefin 2019
Fel rhan o’r prosiect hwn bydd y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol (NAS) yn cynnal ysgol faes danddwr yn Abercastell o’r 7fed i’r 17 Mehefin 2019 i astudio llongddrylliad yr SS LEYSIAN a longddrylliwyd yn y bae ar 20 Chwefror 1917.
Cyn cynnal yr ysgol faes, mae ymchwil yn cael ei wneud i hanes y llong. Dyma grynodeb:
- 1906 – ei henw gwreiddiol oedd yr SS SERAK a chafodd ei hadeiladu yn Newcastle-upon-Tyne i gwmni llongau o’r Almaen;
- 1906 hyd 1914 – bu’n masnachu fel llong gargo gyffredinol rhwng Ewrop ac arfordir gorllewinol gogledd a de America.
- 1914 – cafodd ei chipio yn Abertawe pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf allan a’i rhoi i gwmni llongau Prydeinig fel ‘gwobr rhyfel’. Cafodd ei hailenwi’n SS LEYSIAN.
- 1915 hyd 1917 – cafodd ei defnyddio i gludo anifeiliaid pwn o America i helpu gyda’r ymdrech ryfel yn Ewrop a gogledd Affrica.
- 20 Chwefror 1917 – ar ôl dadlwytho cargo o anifeiliaid pwn yn Belfast, roedd hi’n dychwelyd i America mewn balast pan drawodd yn erbyn y clogwyni ym Mae Abercastell.

Cynigiwyd gwahanol ddamcaniaethau am dynged y llong. Yr un fwyaf cyffredin yw i’r criw gamgymryd Pen Strwmbwl am Benmaendewi mewn niwl, ond mae adroddiadau eraill yn awgrymu iddi gael ei hel ar y creigiau gan long-U, i rywun ymyrryd â’r cwmpawd, ac i ryw hanner cant o yrwyr mulod a oedd ar ei bwrdd wrthryfela. Yn ffodus, ni chollodd neb ei fywyd, ond rydym yn cael trafferth dod o hyd i unrhyw wybodaeth am hanes y llong o’r dyddiad yr aeth yn sownd (20 Chwefror 1917) hyd at yr adeg y suddodd yn ystod storm hydrefol tua wyth mis yn ddiweddarach.#
Credwn i beth gwaith achub gael ei wneud ar y llongddrylliad drwy gydol Gwanwyn a Haf 1917 gan rywun o’r enw Capten J. Driver. Mae’n bosibl iddo ddefnyddio winsh, wedi’i chodi ar y clogwyn uwchben y llong i halio defnyddiau o’r llong i fyny wyneb y clogwyn. Sut bynnag, o ystyried bod y llong 400 troedfedd hon (bron hanner hyd y Titanic) yn gorwedd yn unionsyth mewn dŵr bas ym Mae Abercastell am ryw wyth mis, a’i bod yn amlwg iawn o’r traeth a phen y clogwyni, mae’n syndod cyn lleied o gofnodion, erthyglau, arteffactau, storïau neu luniau o’r cyfnod hwn y daethpwyd o hyd iddynt.
Allwch Chi Ein Helpu?
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y llongddrylliad hwn, byddem yn falch iawn o glywed gennych, ac os byddwch yn Abercastell rhwng 7 a’r 17 Mehefin, dewch draw a chyflwynwch eich hunain.
Ian Cundy B.Sc., M.A.
Y Cymdeithas Archaeoleg Forwrol
(Cydlynydd Cymru)
Ffôn: 01684 574774
Symudol: 07707 423089
E-bost: MADUdiving@gmail.com
Gwefan: www.nauticalarchaeologysociety.org