Popeth yn Dawel ar y Ffrynt Gorllewinol: Gweithrediadau milwrol wedi’r Cadoediad oddi ar arfordir Cymru

  • Home 2
  • Popeth yn Dawel ar y Ffrynt Gorllewinol: Gweithrediadau milwrol wedi’r Cadoediad oddi ar arfordir Cymru

Popeth yn Dawel ar y Ffrynt Gorllewinol: Gweithrediadau milwrol wedi’r Cadoediad oddi ar arfordir Cymru

Category: Newyddion
HMS Audacious yn suddo ar 27 Hydref 1914. Llwyddiant mawr i ffrwydron môr yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ffotograff Q 48342 yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM).

Gyda’r Cadoediad ar 11 Tachwedd 1918 daeth yr ymladd i raddau helaeth i ben, yn enwedig ar y Ffrynt Gorllewinol. Sut bynnag, byddai gweithrediadau milwrol yn parhau ar y ffryntiau cartref, ym Môr Iwerddon a Môr y Gogledd, ac ar hyd arfordir Cymru hyd ddechrau 1919. Roedd awyrlongau wedi cael eu defnyddio drwy gydol y rhyfel i chwilio am longau tanfor ac i amddiffyn y llwybrau môr hanfodol o’r gorllewin i mewn i Gaergybi, Lerpwl, Bryste a Dulyn.

Roedd awyrlongau o’r gorsafoedd yn Llangefni ar Ynys Môn a Milton yn Sir Benfro yn parhau i chwilio am longau-U Almaenig nad oeddynt wedi ildio. Hefydd roedd ffrwydron môr yn fygythiad parhaus i longau. Roedd y rhain wedi cael eu defnyddio i darfu ar y llif o gyflenwadau i Brydain ac i lesteirio’r llynges Brydeinig ac roedd llawer ohonynt wedi’u gosod ger harbyrau a chilfachau gan fod cymaint o longau yn hwylio iddynt.

Roedd Prydain wedi ymateb i’r bygythiad drwy sefydlu rhwydwaith cudd-ymchwil i gasglu, mapio a dosbarthu gwybodaeth am leoliad ffrwydron [1] a thrwy batrolio’r arfordir yn gyson, gan ddefnyddio awyrlongau’n aml i ymgymryd â chyrchoedd ‘chwilio a dinistrio’.

Roedd mapiau cyfrinachol yn cael eu cynnwys yn adroddiadau’r Llynges Brydeinig i arweinwyr milwrol a llunwyr polisi ar statws meysydd ffrwydron Almaenig. Mae’r map hwn yn arbennig yn ymffrostio yn y modd yr oedd gweithrediadau ysgubo ffrwydron y Llynges wedi lleihau bygythiad y ffrwydron hyn.

Dechreuodd yr Almaen osod ffrwydron bron cyn gynted ag y dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf – cafodd y maes ffrwydron cyntaf ei hau gan y Koenigin Louise, llong osod ffrwydron, oddi ar Lowestoft ar noson y 4ydd/5ed o Awst 1914.

Y ffrwydryn cyffwrdd neu E-ffrwydryn Almaenig safonol a ddefnyddid yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ffrwydryn-cyrn Hertz 330 pwys (150 kg) oedd hwn. Cipiodd y Prydeinwyr un ohonynt a chafodd ei gopïo ganddynt i gynhyrchu eu ffrwydryn môr dibynadwy cyntaf eu hunain. [2]
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe osododd yr Almaen fwy na 43,000 o ffrwydron môr a suddodd 497 o longau masnach (1,044,456 o dunelli crynswth (GRT)), er bod un ffynhonnell yn honni i gyfanswm o 586 o longau masnach y Cynghreiriaid gael eu colli. Collodd Prydain ei hun 44 o longau rhyfel a 225 o longau atodol i ffrwydron môr.

Cafodd o leiaf wyth llong danfor Brydeinig a Rwsaidd eu dinistrio gan ffrwydron ac mae’n bosibl i rai o’r chwe llong danfor Rwsaidd a deg llong danfor Brydeinig a ddiflannodd heb adael ôl yn ystod y rhyfel gael eu suddo gan ffrwydron hefyd.

Roedd nifer o longau-U wedi’u ffitio fel llongau gosod ffrwydron, a heuodd un o’r rhain faes ffrwydron oddi ar arfordir dwyreiniol UDA a suddodd y criwser arfog USS San Diego.

Ar  21 Tachwedd 1918, fe welodd Submarine Scout Zero 53, sef awyrlong fach neu ‘blimp’, a oedd yn patrolio Môr Hafren ger Penrhyn Gŵyr, dri ffrwydryn yn nofio ar wyneb y dŵr. Ar ôl methu â dinistrio dau ohonynt â pheirianddryll Lewis, cafodd llong ysgubo ffrwydron ei galw o Abertawe. Erbyn iddi gyrraedd roedd y ddau ffrwydryn wedi taro yn erbyn ei gilydd a ffrwydro. Nid oedd treill-long o Aberdaugleddau mor lwcus – cafodd ei tharo gan ffrwydryn ar ddechrau 1919.

2000 o droedfeddi uwchben harbwr Aberdaugleddau, mis Medi 1916; tynnwyd y llun o awyrlong C5. [3]
Mewn un wythnos, dinistriodd awyrlongau Zero o RAF Pembroke 23 o ffrwydron môr yn Sianel San Siôr a Bae Ceredigion, gan ddefnyddio’r peirianddryll Lewis a gariai’n benodol at y pwrpas. [4]

Awyrlong Zero yn gweithio ar y cyd â llong i ddod o hyd i longau-U a ffrwydron môr © IWM (Q 48005)

Nid oedd yr holl weithrediadau a gafodd eu cofnodi yn logiau hedfan yr awyrlongau wedi’r Cadoediad mor beryglus. Mae cofnodion nifer o awyrlongau Zero yn sôn am hediadau lleol yn gynnar ym 1919, gyda theithiwr yn aml. Aelodau’r lluoedd arfog nad oeddynt wedi cael cyfle i ‘fynd i fyny’, ac a oedd yn awyddus i hedfan mewn awyrlong cyn cael eu rhyddhau, oedd y teithwyr hyn.

Cofnododd yr SSZ16, a oedd wedi’i lleoli ym Mhenfro, 8 awr o amser hedfan ym mis Ionawr 1919, yr oedd 6 ohonynt wedi’u treulio’n rhoi hediadau lleol i deithwyr.

Mae Prosiect Zero wedi bod yn ymchwilio i’r rhan a chwaraewyd gan awyrlongau yn ystod y Rhyfel Mawr yng Nghymru a gellir gweld mwy o wybodaeth ar dudalen blog y prosiect.

 

[1] “British Islands: Approximate Positions of Minefields. 19th August 1918.” Adran Hydrograffig y Morlys, dan oruchwyliaeth yr Ôl-lyngesydd J.F. Parry C.B., Hydrographydd, 6 Awst 1917. Casgliad mapiau William Rea Furlong, Yr Adran Daearyddiaeth a Mapiau, Llyfrgell y Gyngres.
[2] https://www.navweaps.com/Weapons/WAMGER_Mines.php
[3] Llun drwy gwrteisi Brian Turpin. Casgliad preifat.
[4] Wales and the Air War 1914-1918, Alan Philips, Ambereley Publishing ,2015.

 

Gary Ball, Project Zero