
Mae Llun Gyfwerth â Mil o Eiriau – y Dechnoleg Newydd sy’n Gwneud ein Harddangosfeydd yn Fwy Hygyrch
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio gyda Vizgu, datblygwyr appiau o Ddenmarc, i wella profiad pobl â nam ar eu golwg sy’n dod i weld ei arddangosfeydd.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Cymru i’r Deillion a Vizgu, cwmni meddalwedd o Ddenmarc, i greu ei arddangosfa gyntaf sydd wedi’i ‘sain-ddisgrifio’. Mae paneli ar gyfer arddangosfa deithiol Prosiect Llongau-U 1914-18 U-Boat Project wedi cael eu sain-ddisgrifio yn y Gymraeg a’r Saesneg fel y gall pobl sydd â nam ar eu golwg ddefnyddio eu ffonau clyfar i wrando ar fersiwn sain o’r arddangosfa a dysgu am effaith a chanlyniadau hirdymor y bennod allweddol hon yn hanes y Rhyfel Byd Cyntaf, ac am y ffyrdd newydd anhygoel y mae llongddrylliadau ar hyd arfordir Cymru yn cael eu cofnodi.

Gan ddefnyddio app Vizgu ar gyfer ffonau clyfar, gyda’i dechnoleg adnabod delweddau, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi creu disgrifiadau sain dwyieithog ar gyfer chwe phanel yn yr arddangosfa deithiol. Mae system y Comisiwn Brenhinol, sy’n debyg i’r systemau disgrifiad sain a ddefnyddir gan wasanaethau teledu fel iPlayer y BBC, yn defnyddio camera’r ffôn i adnabod y panel y mae’r ymwelydd yn edrych arno. Yna mae’n darllen y wybodaeth sydd ar y panel yn uchel ac yn disgrifio’r delweddau sydd yno, gan alluogi ymwelwyr sydd â nam ar eu golwg i greu delwedd feddyliol o’r arddangosfa.

Yn dilyn sesiwn profi ym mis Hydref gydag aelodau dall a rhannol ddall o Gyngor Cymru i’r Deillion, bu Tom Pert yn gweithio gyda Mensur ac Esmir Ibricic o Vizgu i wella’r app:
“Roedden ni eisiau ymateb i’r adborth gan ein profwyr dall a rhannol ddall yn nigwyddiad Cyngor Cymru i’r Deillion yng Nghaerfyrddin. Y cam cyntaf yn y broses hon oedd dysgu sut i sain-ddisgrifio delweddau fel bod pobl nad ydynt yn gallu eu gweld yn glir neu o gwbl yn cael amcan o beth sydd arnynt – fe gawsom ni adborth gwirioneddol werthfawr gan y Cyngor ar yr ymgais cyntaf, ac fe wnaeth hynny’r profiad cyfan gymaint yn fwy buddiol. Y cam nesaf oedd gweithio gyda Vizgu i ddatblygu modd cyferbyniad-uchel ar gyfer yr app, ac opsiwn i gynyddu maint ffont yr holl destun. Roedden ni hefyd yn awyddus i gynnwys rheolyddion sain mawr a hawdd eu defnyddio fel y gellid stopio’r sain ac ailchwarae’r disgrifiad ar unrhyw adeg. Yn olaf, fe wnaethon ni’r system yn llwyr ddwyieithog er mwyn gallu cynnig rhyngwynebau a chynnwys Cymraeg a Saesneg i’n defnyddwyr.”
Yn dilyn llwyddiant y peilot hwn, bydd y Comisiwn Brenhinol yn ceisio ymgorffori’r dechnoleg adnabod delweddau a sain-ddisgrifio hon mewn mwy o arddangosfeydd a phaneli dehongli yn y dyfodol, ac mae’n gobeithio gweithio gyda phartneriaid yn y sector diwylliant a threftadaeth i’w helpu i wneud eu harddangosfeydd yn fwy hygyrch i ymwelwyr sydd â nam ar eu golwg.
Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.
Bydd modd gweld arddangosfa’r Prosiect yn Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Porthcawl, Parc Howard a lleoliadau eraill yn ystod y misoedd i ddod a bydd y system Vizgu ar gael i’w defnyddio gan ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n caniatáu i’r Gronfa fuddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni . www.hlf.org.uk. Dilynwch Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar Twitter, Facebook ac Instagram
Gellir dilyn y datblygiadau yma:
Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat
Facebook: https://www.facebook.com/llongauUboat
E-bost: LlongauU@cbhc.gov.uk