Achub ci bach – Y rhyfel ar y môr, Lotte a’r U 91

  • Home 2
  • Achub ci bach – Y rhyfel ar y môr, Lotte a’r U 91

Achub ci bach – Y rhyfel ar y môr, Lotte a’r U 91

Category: Newyddion

Yng ngwanwyn 1918, roedd llong-U U 91, dan reolaeth Alfred von Glasenapp, yn patrolio sianel Iwerddon. Roedd y llong-U wedi gadael ei phorthladd yn Heligoland ar 10 Ebrill 1918 ac wedi cael cryn lwyddiant. Erbyn 25 Ebrill, roedd hi eisoes wedi suddo pum llong. Ar 26 Ebrill, daeth ar draws yr ETHEL, sgwner bren, 19 milltir oddi ar arfordir Sir Benfro, yn cludo cargo o lo o Gaerdydd i New Ross. Gwelodd criw’r ETHEL y llong-U a gadawsant eu llong ar frys, gan ddianc yn y badau achub.

Daeth yr U 91 ochr yn ochr â’r ETHEL i gysylltu ffrwydron ac yna dringodd aelodau’r criw ar fwrdd y llong i chwilio am gyflenwadau. Mae dyddiadur preifat anghyhoeddedig capten yr U 91, Alfred von Glasenapp, yn nodi bod y criw yn falch iawn o ddarganfod cig, pysgod wedi’u sychu, rhaffau ac oelcloth. Hefyd gwireddodd von Glasenapp ei uchelgais i gipio cloch llong. Ar ôl iddynt adael y llong, taniwyd y ffrwydron a suddodd yr ETHEL.

Ni laddwyd yr un aelod o griw’r ETHEL, ond wrth adael ar frys gan ofni am eu bywydau anghofiwyd am gi’r llong, daeargi bach â blew garw, a’i adael ar ôl. Mae hyn wedi’i gofnodi yn y dyddiadur fel ‘y ddalfa orau’. Mabwysiadwyd y ci gan y criw Almaenig a’i ailenwi’n Lotte. Mae hi’n cael ei disgrifio mewn man arall yn y dyddiadur fel ‘anifail bach del sy’n dod â llawenydd i bawb ac sy’n arfer yn gyflym iawn â bywyd ar long danfor’.

Arhosodd Lotte gyda’r tanforwyr am weddill eu patrôl llwyddiannus o amgylch Cymru pan aethant ymlaen i suddo’r GRESHAM, WALPAS, ORONSA, DAMÃO a RAYMOND mewn byr amser.

 

Darlun Lotte a dau garcharor ar yr U 91 ar ôl ffotograff hanesyddol. Ffynhonnell: ‘SM U-91 Bilder vom UBoot’, Uboot-Recherche.de, Stiftung Traditionsarchiv Unterseeboote, 2018.
Darlun Lotte a dau garcharor ar yr U 91 ar ôl ffotograff hanesyddol. Ffynhonnell: ‘SM U-91 Bilder vom UBoot’, Uboot-Recherche.de, Stiftung Traditionsarchiv Unterseeboote, 2018.

 

Mae von Glasenapp, yn ei ddyddiadur, yn anghofio sôn bod anifeiliaid wedi’u llwyr wahardd ar longau tanfor. Nid oes unrhyw luniau yn y ffeil filwrol chwaith, ond rydym wedi dod ar draws llun o Lotte ar fwrdd yr U 91 gyda dau garcharor, Mr Maine o’r LADONIA a Mr Goodwin o’r BARON HERRIES.

Ar eu taith adref, mae von Glasenapp yn cofnodi bod y tywydd ar 29 Ebrill yn llonydd, a bod llawer o’r criw ar y dec a Lotte, ‘cariad pawb’, yn eistedd rhyngddynt.

Mae’r cofnod olaf yn y dyddiadur yn nodi’r croeso a gafodd y criw, a oedd yn dawelach na’r disgwyl gan i’r llong danfor gyrraedd yn gynnar. Clywyd peth cymeradwyaeth o un o’r llongau llety, y PREUSSEN. Daeth pennaeth y llyngesan, y Kap Walther Forstmann, ar fwrdd y llong-U a galwodd bawb ynghyd i’w llongyfarch gan mai eu llong-U hwy oedd yr un fwyaf llwyddiannus mewn pedair wythnos. Yn ôl Glasenapp, ‘tarfodd [Lotte] ar natur seremonïol y sefyllfa drwy ruthro o gwmpas yn wyllt’.

Gwyddom i von Glasenapp a chriw’r U 91 fynd ar ddau batrôl arall, gan suddo mwy o longau, ac i von Glasenapp orffen y rhyfel yn gapten llong-U llwyddiannus a enillasai nifer o fedalau. Allan o’r 498 o gapteiniaid llongau-U, ef yw’r 24ydd mwyaf llwyddiannus o ran nifer y llongau a gafodd eu suddo neu eu difrodi. Suddwyd 52 o longau a difrodwyd chwech arall gan y ddwy long-U y bu’n gapten arnynt. Bu farw ym 1958 yn 75 oed.

Ni wyddom beth a ddigwyddodd i Lotte ar ôl i’r llong-U ddychwelyd i’r Almaen, nac yn wir sut y daeth hi i fod ar fwrdd yr ETHEL pan adawodd Gaerdydd yn gynharach y mis hwnnw.

 

Allwch chi ein helpu i orffen stori Lotte?
Os gallwch ein helpu i olrhain hanes Lotte, neu unrhyw gi arall a oedd yn gysylltiedig â rhyfel llongau-U 1914-1918, cysylltwch â ni drwy e-bostio:
LlongauU@cbhc.gov.uk / UBoat@rcahmw.gov.uk neu drwy ffonio 01970 621200.

I gael y newyddion diweddaraf am y prosiect, edrychwch ar ein blog ar y wefan hon neu dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Twitter: @LlongauUBoat
Facebookhttps://www.facebook.com/llongauUboat/