
Gwasanaeth Coffa Arbennig yn Nhref Dundalk i Goffáu’r Llong o’r Un Enw
Ar Ddydd Sul 14 Hydref, bu tref Dundalk, Swydd Louth, Iwerddon, yn coffáu colli llong yr oedd bron y cyfan o’i chriw yn dod o’r dref – heblaw am ddau yr oedd ganddynt gysylltiadau cryf â Chymru.
Un ohonynt oedd Samuel J Cocks, rheolwr cyffredinol y cwmni llongau a oedd yn berchen ar y llong. Yn ŵr gweddw, roedd yn dychwelyd o angladd ei frawd yn y Fflint. Y llall oedd Harold Grey, gŵr ifanc o Abertawe, a fu farw chwe diwrnod yn unig cyn ei ben-blwydd yn bedair ar bymtheg oed. Heblaw am Mr Cocks, mae enwau’r rhai a gollwyd wedi’u cofnodi ar Gofeb y Llynges Fasnachol ar Tower Hill. Coffeir Harold Grey ar gofeb Hafod Isha, Abertawe, hefyd.
Yn Dundalk, Ddydd Sul diwethaf, cafodd y trychineb ei goffáu drwy gael gwasanaeth arbennig yn yr eglwys gadeiriol, cynnal arddangosfa yn yr amgueddfa leol, dadorchuddio cofeb ar Navvy Bank, a rhoi gweddi derfynol ar y Quays am 11.10pm – ar yr union adeg y suddodd y llong.
Agerlong sgriw oedd y TSS DUNDALK, a adeiladwyd ar gyfer y Dundalk and Newry Steampacket Company. Masnachai ar draws Môr Iwerddon yn ystod rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd hi wedi goroesi ymosodiad gan long-U ym mis Rhagfyr 1917, ond ym 1918 fe ddaeth wyneb yn wyneb â’r U 90.
Roedd capten yr U 90 yn brofiadol iawn. Roedd wedi suddo’r SS APAPA a’r SS DERBENT ym 1917, dwy long sy’n cael eu hastudio gan y Comisiwn Brenhinol ar hyn o bryd. Ar 14 Hydref 1918, gwelodd yr U 90 y DUNDALK a thaniodd dorpido. Bu i’r ffrwydrad bron â rhwygo’r llong yn ddau ddarn, gan beri iddi suddo’n gyflym. Llwyddodd y rhai a oedd wedi goroesi i fynd i’r badau achub, ond buont yn dioddef am 17 awr ar y môr cyn cael eu hachub.
Allan o’r 32 o bobl ar ei bwrdd, collodd 21 o aelodau criw a theithwyr eu bywydau, gan gynnwys ei meistr, Capten Hugh O’Neill. Dangosodd cymuned Dundalk eu cefnogaeth i’r gwragedd gweddw a oedd yn wynebu cyni drwy godi £6000 i’w helpu. Nid yw’r dref byth wedi anghofio’r trychineb ac, yn gynharach eleni, aeth disgynyddion y rhai a laddwyd allan ar y MANANNAN, fferi’r Steam Packet Company, i roi blodau ar y môr.



Dilynwch y cysylltau canlynol i ddysgu mwy am goffáu’r DUNDALK a chysylltiadau’r criw â Chymru:
- https://www.independent.ie/regionals/argus/news/centenary-of-the-tragic-sinking-of-ss-DUNDALK-36515541.html
- https://www.DUNDALKdemocrat.ie/news/home/294862/ss-DUNDALK-100-years-on.html
- https://www.flintshirewarmemorials.com/memorials/flint-memorial/flint-soldiers/cocks-samuel-john/
- https://war-memorials.swan.ac.uk/?p=345
Gan Geoffrey Hickling, Gwirfoddolwr
Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.
Mae’n bleser gan dîm y Prosiect Llongau-U eich gwahodd i’n cynhadledd MOROL / Prosiect Llongau-U 1914-18 dau-ddiwrnod: ‘Coffáu profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y môr’ a gynhelir yn Neuadd Pater, Noc Penfro ar 3 a 4 Tachwedd 2018.
Dilynwch y cyswllt hwn i gofrestru eich presenoldeb: https://ti.to/digital-past/Yn-Coffaur-Rhyfel-ar-y-mor-2018
Gallwch weld arddangosfa’r Prosiect yn Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Porthcawl a Pharc Howard ar hyn o bryd, ac mewn lleoliadau eraill yn ystod y misoedd i ddod.
Gellir dilyn y datblygiadau yma:
Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat
Facebook: https://www.facebook.com/llongauUboat
E-bost: llongauu@cbhc.gov.uk