
Cofio’r RMS LEINSTER (a’r MEXICO CITY) – 10 Hydref 1918
Mae hanes suddo’r LEINSTER gan dorpido yn adnabyddus iawn gan i’r weithred honno arwain at y golled fwyaf o ran bywydau ym Môr Iwerddon yn ystod y Rhyfel Mawr. Mae canmlwyddiant y suddo’n cael ei goffáu heddiw gan Amgueddfa Arforol Caergybi mewn seremoni arbennig a fynychir gan ddisgynyddion y criw a’r teithwyr.
Llai adnabyddus yw’r rhan a chwaraeodd y LEINSTER mewn digwyddiad fisoedd yn gynharach, pan achubodd aelodau o griw llong arall a suddwyd, yr SS MEXICO CITY.
Cafodd y MEXICO CITY ei hadeiladu gan y Sunderland Shipbuilding Company ym 1896, a’i henw gwreiddiol oedd yr SS NARRUNG. Byddai’n masnachu gyda’r trefedigaethau ac roedd y system goleuadau trydan ddiweddaraf wedi’i gosod arni. Roedd y cysuron ar y llong yn ddigon arbennig i ddenu sylw papurau newydd Newcastle.

Yn anffodus, roedd hi hefyd wedi dioddef sawl anhap, a hynny o ddyddiad ei lansio pan gafodd ei difrodi wrth fynd i mewn i’r dŵr, gan suddo bron, ym 1912. Yna fe oroesodd ymosodiad arni gan yr U 35 ym 1916. Yn olaf, ar 5 Chwefror 1918, wrth hwylio o Lerpwl i Aberdaugleddyf i ffurfio confoi, a phan oedd hi’n 15 milltir o Ynys Lawd, Caergybi, cafodd ei gweld gan yr U 101 a’i tharo gan dorpido ger hatsh rhif dau ar yr ochr chwith. Lansiwyd badau achub y llong ar unwaith, ond ymhlith y rhai a gollwyd oedd y capten a welwyd ddiwethaf yn mynd i mewn i’w gaban i gael papurau’r llong i’w taflu i’r môr.
Dyma lle mae storïau’r LEINSTER a’r MEXICO CITY yn croesi. Cafodd un o fadau achub y MEXICO CITY ei ddarganfod am 11.15am y diwrnod wedyn gan y LEINSTER. Roedd ynddo gogydd a saith llongwr o Tsieina. Dioddefodd yr aelodau criw yn y badau achub eraill yr un caledi, a llawer gwaeth.
Daeth yr U 101 ochr yn ochr ag un bad achub i chwilio am swyddogion i’w holi, ond cuddiodd y Prif Swyddog a oedd wedi goroesi ar waelod y bad hyd nes i’r llongwyr Tsieineaidd lwyddo i yrru’r llong danfor i ffwrdd. Cafodd bad achub gydag un ar bymtheg o ddynion ynddo ei weld gan y llong WAR BRACKEN, ond trodd â’i ben i lawr wrth geisio ei glymu wrth ochr y llong. Dim ond pedwar o’r goroeswyr a gafodd eu hachub o’r môr a’u glanio’n ddiogel yn Aberdaugleddyf. Llwyddodd bad achub arall, gyda bosn Tsieineaidd y MEXICO CITY a phum llongwr arall ynddo, i gyrraedd Douglas.
Er mor bwysig ydyw i ni gofio suddo’r LEINSTER heddiw, dylem ni hefyd gofio’r cyfraniad cadarnhaol a wnaeth wrth achub bywydau.

Coffeir y mwyafrif o griw’r MEXICO CITY ar Gofeb Hong Kong, Cofeb Lyngesol Plymouth, Cofeb Tower Hill, ac mewn mynwentydd ar Ynys Manaw. Dyma rai o’u henwau:
Charles Emms, Capten y Llong; Ah See, Taniwr; Ah Too, Saer Coed; Ah Yu, Taniwr; David Allen, Prif Beiriannydd; Thomas Ashcroft, Pumed Peiriannydd; John Cameron, Trydydd Is-gapten; Benjamin, Evans, Pedwerydd Peiriannydd; Fah Mok, Llongwr; Fok Foo, Taniwr; Ghong Lee, Irwr; George Hill, Llongwr; Hing Pai Hi, Cogydd; Edward Hodson, Trydydd Peiriannydd; Hong Seng, Irwr; Hong Wah, Taniwr; Kai Chong, Llongwr; Kwok Chow, Taniwr; Kwok Yong, Taniwr; Thomas Wright Leslie, 43 oed, Ail Is-gapten; Ling Ah Sang, Swyddog Cyflenwi; Mow Hong, Taniwr; William Edmund Pinder, Gweithredwr Weiarles; Francis Smart, Ail Weithredwr; Tai Ah Hing, Ail Fosn; Wee Chun, Ail Gogydd; Woo Jong Meng, Bachgen Llong; a Yai Low, Taniwr.
Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.
Mae’n bleser gan dîm y Prosiect Llongau-U eich gwahodd i’n cynhadledd MOROL / Prosiect Llongau-U 1914-18 ddau-ddiwrnod: ‘Coffáu profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y môr’, a gynhelir yn Neuadd Pater, Doc Penfro ar 3 a 4 Tachwedd 2018.
Dilynwch y cyswllt hwn i gofrestru eich presenoldeb: https://ti.to/digital-past/Yn-Coffaur-Rhyfel-ar-y-mor-2018
Gallwch weld arddangosfa’r Prosiect yn Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Porthcawl a Pharc Howard ar hyn o bryd, ac mewn lleoliadau eraill yn ystod y misoedd i ddod.
Gallwch ddilyn y datblygiadau yma:
Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat
Facebook: https://www.facebook.com/llongauUboat
E-bost: llongauu@cbhc.gov.uk