Cofio’r USS TAMPA a suddwyd ar 26 Medi 1918

  • Home 2
  • Cofio’r USS TAMPA a suddwyd ar 26 Medi 1918

Cofio’r USS TAMPA a suddwyd ar 26 Medi 1918

Category: Newyddion
Staff Gwylwyr y Glannau’r UD gyda chynrychiolwyr yr eglwys, David James o Gymdeithas Treftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru, a Simon Thomas o’r Genhadaeth i Forwyr, Aberdaugleddyf.
Staff Gwylwyr y Glannau’r UD gyda chynrychiolwyr yr eglwys, David James o Gymdeithas Treftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru, a Simon Thomas o’r Genhadaeth i Forwyr, Aberdaugleddyf.

Ar 23 Medi 2018, yn ystod gwasanaeth y Sul yn eglwys Sant Tyfei a Santes Faith, Llandyfái, cyflwynodd cynrychiolwyr Gwylwyr y Glannau’r Unol Daleithiau blac coffa arbennig i gydnabod y gofal a roddwyd i fedd llongwr Americanaidd anhysbys o’r Rhyfel Mawr.

Cafodd y plac, a gyflwynwyd gan Gymdeithas Prif Is-swyddogion Gwylwyr y Glannau’r Unol Daleithiau a Chymdeithas Personél Rhestredig Gwylwyr y Glannau, ei dderbyn gan y Parchg Peter Jones a wardeiniaid yr eglwys ar ran y gymuned leol.

Mae’r parch arbennig a deimlir yn lleol at y llongwr anhysbys hwn o America yn deillio o’r ffaith mai colli’r TAMPA oedd y golled fwyaf a ddioddefodd yr Unol Daleithiau ar y môr yn ystod y Rhyfel Mawr.

Cafodd y TAMPA ei hadeiladu i Wasanaeth Refeniw yr Unol Daleithiau gan Gwmni Adeiladu Llongau Newport News, Virginia. Ar 6 Ebrill 1917, pan gyhoeddodd yr Unol Daleithiau ryfel yn erbyn yr Almaen, roedd y TAMPA yn un o chwe chytar Gwylwyr y Glannau a drosglwyddwyd i’r Llynges. Ar ôl i arfau mwy nerthol gael eu gosod arni yn y Boston Navy Yard, cafodd y llong ei throsglwyddo i Adran 6, Lluoedd Patrolio Llynges Iwerydd yn Gibraltar a’i thasg oedd amddiffyn confois rhag ymosodiadau gan longau tanfor.

Ar 26 Medi 1918, roedd y TAMPA yn hwylio ar ei phen ei hun tuag at Aberdaugleddyf i gael llwyth o lo. Oddi ar arfordir Dyfnaint fe gafodd ei tharo gan dorpido wedi’i danio gan yr UB 91 a suddodd mewn llai na thair munud. Roedd y criw a fu farw yn cynnwys 111 o bersonél Gwylwyr y Glannau’r UD, pedwar aelod o staff Llynges yr UD, capten yn y Fyddin Brydeinig (heb ei gadarnhau), deg llongwr o’r Llynges Frenhinol, a phum gweithiwr doc o Brydain.

Ar ôl y trychineb, derbyniodd y Llyngesydd William S Sims, yr uwch swyddog  yn Llynges yr UD a oedd ar ddyletswydd ym Mhrydain Fawr, y neges ganlynol gan Arglwyddi Morlys Prydain:

‘Mae’r Arglwyddi wedi gofyn i mi fynegi eu gofid mawr yn dilyn colli’r USS Tampa. Mae ei record ers cael ei defnyddio yn nyfroedd Ewrop fel llong hebrwng confois wedi bod yn eithriadol.’

Ar gyfartaledd, roedd y TAMPA wedi hwylio 3566 o filltiroedd y mis heb unrhyw broblemau mecanyddol mawr, wrth hebrwng 18 confoi yn cynnwys 350 o longau.

Cafodd dau gorff eu golchi i’r lan ger Llandyfái. Roedd yr awdurdodau’n gallu enwi un fel Llongwr James Marconnier Fleury, Gwylwyr y Glannau’r UD. Ni chafodd y corff arall byth ei adnabod ac mae’n gorffwys hyd heddiw ym Mynwent Llandyfái.

I ddarllen mwy am y TAMPA a Gwasanaeth Gwylwyr y Glannau’r  UD, dilynwch y cysylltau hyn:

Bedd llongwr anhysbys Gwylwyr y Glannau’r UD yn y fynwent.
Bedd llongwr anhysbys Gwylwyr y Glannau’r UD yn y fynwent.

Colli’r TAMPA oedd y deyrnged a ddewiswyd gan Amgueddfa Porthcawl ar gyfer arddangosfa Prosiect Llongau-U 1914-18. Gellir gweld y panel ar hyn o bryd yn Amgueddfa Abertawe, a bydd yn cael ei dangos mewn lleoliadau eraill yn ystod y misoedd i ddod. https://www.swanseamuseum.co.uk/whats-on/exhibitions