
Cynhadledd MOROL / Prosiect Llongau-U 1914-18: Coffáu profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y môr

Mae’n bleser gan dîm y Prosiect Llongau-U eich gwahodd i’n cynhadledd MOROL / Prosiect Llongau-U 1914-18 dau-ddiwrnod:
‘Coffáu profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y môr’
a gynhelir yn Neuadd Pater, Noc Penfro ar 3 a 4 Tachwedd 2018.
Ymunwch â ni i ddysgu am brofiad y llongwyr a chymunedau Cymreig a fu ynghlwm wrth weithgareddau’r Llynges Frenhinol, y llynges fasnachol a’r diwydiant pysgota yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nodau’r gynhadledd fydd rhoi sylw i’r ymchwil a’r prosiectau yr ymgymerwyd â nhw yn ystod cyfnod y coffáu, ac ysgogi ymchwil a phrosiectau treftadaeth cymunedol yn y dyfodol i gofnodi ymhellach effeithiau’r gyflafan.
Yn ogystal â rhaglen lawn o siaradwyr fe fydd arddangosiadau ymarferol, hyfforddiant i ymchwilwyr ar sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein, a thaith dywys drwy’r amgueddfa môr yn Hancock’s Yard.
Cynhelir y gynhadledd ar y cyd â dangos arddangosfa’r Prosiect Llongau-U, sy’n datgelu canlyniadau cyffrous arolygon newydd o longddrylliadau o’r Rhyfel Mawr ac yn cyflwyno teyrngedau a awgrymwyd gan grwpiau cymunedol ar hyd a lled Cymru.
Cofrestru
Dilynwch y cyswllt hwn i gofrestru eich presenoldeb: https://ti.to/digital-past/Yn-Coffaur-Rhyfel-ar-y-mor-2018
Mae nifer cyfyngedig o leoedd, felly bwciwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi!
Cysylltwch â ni
E-bost: llongauu@cbhc.gov.uk
Dilynwch ni ar Twitter ac ar Facebook
