Coffáu Profiad Cymru O’r Rhyfel Mawr Ar Y Môr

  • Home 2
  • Coffáu Profiad Cymru O’r Rhyfel Mawr Ar Y Môr

Coffáu Profiad Cymru O’r Rhyfel Mawr Ar Y Môr

Category: Newyddion

3-4 Tachwedd 2018
Neuadd Pater, Lewis Street, Doc Penfro, SA72 6DD

Bydd y gynhadledd ddau ddiwrnod hon yn edrych ar brofiad y llongwyr a chymunedau Cymreig a fu ynghlwm wrth weithgareddau’r Llynges Frenhinol, y llynges fasnachol a’r diwydiant pysgota yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nodau’r gynhadledd fydd rhoi sylw i’r ymchwil a’r prosiectau yr ymgymerwyd â nhw yn ystod cyfnod y coffáu, ac ysgogi mwy o ymchwil a phrosiectau treftadaeth cymunedol mewn perthynas ag effeithiau hirbarhaol y rhyfel wedi iddo ddod i ben.

Galwad am Gyfraniadau
Gall cyfraniadau gael eu gwneud drwy gyflwyniadau neu weithdai ffurfiol, neu’n fwy anffurfiol yn ystod y sesiwn ‘anghynhadledd’ neu drwy osod stondin arddangos. Rydym yn croesawu cyfraniadau drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg, neu’n ddwyieithog. Rydym hefyd yn annog menywod i gynnig cyflwyniadau. Yn sesiynau’r gynhadledd bydd papurau sy’n para am tua 30 munud yn cael eu cyflwyno. Bydd hefyd gyfres o sesiynau 15 munud llai ffurfiol. Anogwn unigolion a grwpiau sy’n cymryd rhan ym Mhrosiect Llongau-U Cymru i gyflwyno gwaith a gwblhawyd, sydd ar y gweill neu sydd yn yr arfaeth, yn y sesiynau hyn.

Themâu a Thopigau
Croesawn yn arbennig bapurau sy’n ymdrin â:

  • Themâu, digwyddiadau a phobl sydd hyd yma heb gael eu coffáu
  • Y profiad dynol o ryfel ar y môr
  • Dyletswyddau’r llynges fasnachol yn ystod y rhyfel
  • Technoleg a’r rhyfel ar y môr
  • Cofio’r rhyfel ar y môr: cofebau, cofiannau a diwylliant materol
  • Hanes teulu a chanlyniadau’r rhyfel ar y môr
  • Rolau a phrofiadau menywod a merched
  • Rolau a phrofiadau Cymunedau Ethnig Lleiafrifol
  • Barn y cyhoedd a sylw’r cyfryngau mewn perthynas â’r llyngesau/llynges fasnachol cyn, yn ystod ac ar ôl y rhyfel

Gweithdai
Fe fydd hefyd arddangosiadau ymarferol neu hyfforddiant ar ddefnyddio adnoddau ar-lein I ymchwilwyr. I wneud cais am gyflwyniad, trafodaeth seminar neu weithdy, byddwch cystal ag anfon cynnig byr (300 gair) ynghyd â’ch enw a’ch sefydliad.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau, seminarau a gweithdai yw Dydd Mercher, 1 Awst 2018. Bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar ôl ystyried rhinweddau’r ceisiadau unigol a pha mor berthnasol ydynt i’r rhaglen gyffredinol. Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am ein penderfyniad erbyn Dydd Gwener, 17 Awst 2018.

Cynigir cofrestru di-dâl ar gyfer y digwyddiad i’r rheiny fydd yn cyflwyno papur neu weithdy. Byddwch cystal â nodi: er ein bod ni’n annog ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau sy’n cynnwys mwy nag un siaradwr, ni allwn gynnig ond un cofrestriad di-dâl ar gyfer pob cais. Ni allwn gynnig unrhyw dreuliau eraill. Yn achos ymgeiswyr tramor, byddwn yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno papurau drwy ffrydio gwe byw.

I gael mwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Dilynwch y Prosiect Llongau-U ar-lein:

Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.

Gellir cael mwy o wybodaeth am nodau’r Prosiect a sut mae’n cael ei ariannu yma:
https://rcahmw.gov.uk/world-war-one-u-boat-partnership-project-gets-green-light-from-heritage-lottery-fund-for-wales-year-of-the-sea-2018