100 mlynedd yn ôl – suddwyd yr agerlong yr SS Boscastle ar 7 Ebrill 1918 gan yr U-111

  • Home 2
  • 100 mlynedd yn ôl – suddwyd yr agerlong yr SS Boscastle ar 7 Ebrill 1918 gan yr U-111

100 mlynedd yn ôl – suddwyd yr agerlong yr SS Boscastle ar 7 Ebrill 1918 gan yr U-111

Category: Newyddion

Adeiladwyd yr SS Boscastle yn West Hartlepool i E. Jenkins a’i Gwmni, Caerdydd. Dyma’r disgrifiad ohoni adeg ei lansio ym 1912:

“Length over all, 309ft.; breadth, 44ft. 9in.; and depth, 32ft. 1 in., with long bridge, poop, and top-gallant forecastle.

The saloon, staterooms, captain’s, officers, and engineers’ rooms, etc., will be fitted up in houses on the bridge deck, and the crew’s berths in the forecastle.

The hull is built with deep frames, cellular double bottom, and large aft peak ballast tank, five steam winches, steam steering gear amidships, hand screw gear aft, patent direct steam windlass, large patent vertical donkey boiler, stockless anchors, telescopic masts, with fore and aft rig, and all requirements for a first class cargo steamer.

Triple-expansion engines are being supplied by the Central Marine Engineering Works of the builders, having cylinders 22in., 36 in., and 60in. diameter, with a piston stroke of 39in., and two large steel boilers for a working pressure of 180lbs. per square inch”.

Cafodd y seremoni enwi ei llywio gan Mrs Jenkins, Caerdydd, gwraig y perchennog.

Cafodd y Boscastle ei llogi gan y Morlys ar gyfer gwaith rhyfel ac adeg ei suddo roedd hi’n cludo glo rhydd Cymreig o’r Barri yn Ne Cymru i’r llynges o longau rhyfel Prydeinig yn Scapa Flow.

 

Y llong danfor Almaenig U-111.
Y llong danfor Almaenig U-111.

 

Adeiladwyd y llong danfor Almaenig U-111 yn gynnar ym 1917 yn Vegesack, Yr Almaen, gan Bremer Vulcan o dan is-gontract i’r Germaniawerft yn Kiel, a chafodd ei lansio ar 5 Medi 1917. Cyrhaeddodd ei hardal batrolio gyntaf ger Sianel San Siôr yn ystod wythnos gyntaf Ebrill. Ar y 7fed, gwelodd ei tharged cyntaf, yr SS Boscastle, llong 2,346 tunnell. Ymosododd y llong danfor ar yr wyneb, gan danio un torpido a suddodd y llong fasnach.

 

 

Naw diwrnod ar ôl y Cadoediad (11 Tachwedd 1918) fe gafodd yr U-111 ei hildio a’i chadw yn Harwich. Ym mis Ebrill 1919 fe’i rhoddwyd i Lynges yr Unol Daleithiau a chafodd ei defnyddio ar gyfer ymarfer saethu a’i dinistrio ym 1921.

Ymhlith y deunaw aelod o’r criw a gollodd eu bywydau y diwrnod hwnnw yr oedd:

  • Samuel Lewis, Capten, 44 oed y Boscastle. Roedd yn fab i William a Susan Lewis o Brixham, Dyfnaint ac yn briod â Matilda Lewis o Gaerdydd
  • David Thomas, Llongwr Abl, 68 oed.  Ganwyd David yn Aber-porth, yn fab i Mr a Mrs Margaret Thomas ac roedd wedi gwasanaethu ar y môr am flynyddoedd lawer cyn y rhyfel. Pan nad oedd ar y môr roedd yn byw gyda’i wraig Mary Thomas (Evans cyn priodi), yn 200 City Road, Caerdydd
  • Alexander Dryland, Cogydd a Stiward, 49 oed o 22 Saltmead Road, Caerdydd
  • Thomas Jones, Peiriannydd Cyntaf, 55 oed, mab Phillip ac Elizabeth Jones a phriod Lily May Jones (McNamara cyn priodi), o 147 St Helens Avenue, Abertawe. Ganwyd yn Sgiwen, Castell-nedd
  • Harry White, Llongwr Cyffredin, 17 oed, mab Lucy White (Pike cyn priodi), o 33 Glebe Street, Penarth

Roedd pedwar llongwr o India ymhlith y rheiny a laddwyd hefyd. Maen nhw i gyd wedi’u rhestru fel tanwyr, Gwasanaeth Masnachol India.

Eu henwau oedd:

  • Abdul Ali
  • Ahmad Husam
  • Ali Husam
  • Muhammad

Nid oes rhagor o fanylion am y dynion hyn. Roedd yn beth cyffredin i longwyr o India hwylio ar longau masnach Prydeinig, ac roedd 30% o’r criwiau’n dod o wledydd eraill yn aml iawn. Byddai llongwyr o India ac Affrica yn gweithio fel tanwyr o dan y dec yn howld danio’r llong, yn cynnal y tân drwy ei lwytho â glo. Gwaith poeth, caled a pheryglus oedd hwn a phan fyddai llongau-U yn ymosod ar longau masnach, y morwyr hyn a oedd yn fwyaf tebygol o gael eu lladd gan foeleri’n ffrwydro a thrwy gael eu dal ar fwrdd y llong wrth iddi suddo. Mae ymchwil yn cael ei wneud i rôl llongwyr BAME (du, Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig) yn y Rhyfel ar y Môr ac mae’r prosiect llongau-U yn edrych ar y criwiau amrywiol a fu’n gwasanaethu ar fwrdd y llongau a suddwyd ar hyd arfordir Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.

Gellir dilyn y datblygiadau yma:
Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat
Facebook: https://www.facebook.com/llongauUboat

Gellir cael mwy o wybodaeth am nodau’r Prosiect a sut mae’n cael ei ariannu yma:
https://rcahmw.gov.uk/world-war-one-u-boat-partnership-project-gets-green-light-from-heritage-lottery-fund-for-wales-year-of-the-sea-2018 

Gellir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â:

e-bost: LlongauU@cbhc.gov.uk