
Y Rhyfel y Môr: Nadolig 1917
SS AGBERI: Y negesydd distaw
Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos nad yw suddo’r SS AGBERI yn ddigwyddiad sydd wedi cael llawer o sylw gan ysgolheigion, y cyfryngau na’r cyhoedd ehangach. Sut bynnag, pan osodir y digwyddiad yng nghyd-destun ehangach y Rhyfel Byd Cyntaf, daw’n glir bod manylion ei dinistr yn amlygu rhai o ddatblygiadau pwysicaf y rhyfel y môr.
Nodweddion
Agerlong sgriw ddur oedd yr ‘Agberi’, Rhif Swyddogol 120880. Roedd ganddi ddau ddec a dec cysgodi. Roedd hi’n pwyso 4821 tunnell, yn 370.3 troedfedd o hyd, yn 49.3 troedfedd o led, ac yn 21.8 troedfedd o uchder. Cafodd ei hadeiladu gan Workman Clark & Co. Ltd, Belfast (Rhif Iard 220) i Elder Dempster & Co. Roedd llety i ddeg teithiwr ar ei bwrdd.

(Cowden, James E.; Duffy, John O. C. 1986. The Elder Dempster Fleet History: 1852-1985. James E. Cowden a John O. C. Duffy. t.118)
Gyrfa a suddo
Rhwng 1915 a 1916 roedd hi wedi treulio’r rhan fwyaf o’i hamser ar bedair taith rhwng Rwsia a Brest yn cludo milwyr Rwsiaidd i Ffrainc ar ran llywodraeth y Tsar.

(Cowden, James E.; Duffy, John O. C. 1986. The Elder Dempster Fleet History: 1852-1985. James E. Cowden a John O. C. Duffy. t.119)
Erbyn Diwrnod Nadolig 1917, roedd hi’n cael ei defnyddio i gludo nwyddau a theithwyr. Ei chapten oedd J.C. Shooter ac roedd hi’n hwylio fel rhan o gonfoi o Dakar, Senegal i Lerpwl gyda chargo cyffredinol o ifori ac arian bath pan ddigwyddodd yr ymosodiad. Am 2:42pm cafodd ei tharo gan dorpido ar ei hochr chwith. Dinistriwyd yr holl fadau achub yn y ffrwydrad, ond llwyddodd y criw a’r teithwyr i fynd ar y badau bach eraill a oedd ar y llong a gadael cyn iddi suddo.
Roedd Ysbyty Morwyr Stanley yng Nghaergybi yn barod fel arfer i’w derbyn. Cyrhaeddodd rhwng 35 a 63 o oroeswyr yr ysbyty ganol nos i dderbyn gofal arbenigol.

Ysbyty Caergybi
Yn swyddogol, nid oedd neb wedi’i anafu na’i ladd, er ei bod hi’n bosibl bod marwolaeth yr irwr J. McStein yn gysylltiedig â’r suddo. Ni chafodd y suddo fawr ddim sylw yn y papurau newydd Cymreig a Phrydeinig. Mae suddo’r Apapa, oherwydd i lawer ar ei bwrdd gael eu lladd, wedi cael llawer mwy o sylw yn yr hanesion am y rhyfel a’r cwmni llongau. Drwy gydol 1915 a 1916 gwelwyd cynnydd cyson yn nifer y llongau a oedd yn cael eu colli. Cyrhaeddodd y colledion eu hanterth yn ystod 3 mis ym 1917 pan gollwyd 1,200,000 o dunelli, felly ni fyddai colli un llong yn ddigwyddiad nodedig iawn oni bai bod elfen o erchylltra neu arwriaeth yn perthyn iddo.
Tynged yr U-87
Dechreuwn weld pwysigrwydd y llong hon pan ystyriwn dynged y llong danfor a’i suddodd. Llong danfor dosbarth U-81 oedd yr U-87, gydag arfau pwerus, sef pedwar tiwb torpido 50cm, un gwn Tk 10.5cm/45, ac un gwn Uk 8.8cm/30. Roedd ganddi beiriannau dibynadwy, sef dau beiriant MAN 6-silindr, 4-strôc yn ei 3edd adran ddwrglos. Cafodd ei hadeiladu gan KWD, roedd ganddi ddadleoliad o 1165 tunnell, ac roedd hi’n 65.80 metr o hyd. Roedd hi’n gallu gweithredu mewn unrhyw amgylchedd morol ac roedd hi’n arbennig o hawdd ei thrin. Roedd ganddi record dda yn y rhyfel – roedd hi wedi suddo 22 o longau, y mwyafrif ohonynt o dan Rudolf Schneider.

Ond nid oedd hyn yn gallu ei hachub pan ddaeth llongau hebrwng y confoi o hyd iddi. Byddai ei chapten presennol, Kapitanleuteutnant Rudolf von Speth-Schülzburg, yn ceisio osgoi’r llongau a oedd am ei dinistrio, ond byddai’n methu.
Mae ymchwil blaenorol gan y Comisiwn Brenhinol wedi dangos mor gyflym oedd yr ymateb i’r ymosodiad ar yr Agberi.
“Mae llyfr log HMS BUTTERCUP, slwp dosbarth Arabis, yn egluro’n gryno iawn yr hyn a ddigwyddodd:
- 02:42(pm) Torpido’n taro’r SS AGBERI.
- 03:30 Wrth igam-ogamu o amgylch yr AGBERI gwelwyd llong danfor ar yr wyneb. Aeth HMS P56 i’r afael â hi a’i bwrw. Taniodd BUTTERCUP arni gan daro’r tŵr rheoli.
- 03:40 Suddodd yr SS AGBERI. Suddodd y llong danfor.
- 05:00 Ailymunwyd â’r confoi.”
O fewn rhyw awr roedd y llongau hebrwng wedi ymosod ar yr U-87 a’i suddo. O’i gymharu â suddiadau blaenorol gan longau tanfor roedd cyflymder y digwyddiadau’n rhyfeddol. Drwy glystyru llongau nid oedd criwiau llongau masnach yn wynebu’r artaith o orfod gweld llongau tanfor yn hwylio o’u hamgylch ar ôl iddynt gael eu taro, fel yn achos y Penshurst. Hefyd, drwy sicrhau nad oedd llongau masnach yn hwylio ar eu pennau eu hunain,
fel yn achos yr APAPA, nid oeddynt yn darged mor hawdd. Roedd llongau tanfor yn gorfod ymosod ar dargedau a oedd yn cael eu hamddiffyn yn dda, a gallent gael eu dinistrio yn eu byd cudd eu hunain gan ffrwydron tanddwr.
Mae’n hawdd rhoi arwyddocâd i ddigwyddiad gweddol anhysbys ym môr oer Iwerddon. Serch hynny, mae suddo’r Apapa ar ddiwedd mis Tachwedd, ac yna’r llong-Q y Penshurst, ac yna’r Agberi, yn caniatáu i ni weld o fewn un mis ficrocosm o’r rhyfel ar y môr. Câi llongau unigol eu hebrwng ond byddent yn agored i ymosodiad ar ôl i’r llongau hebrwng adael. Byddai llongau-Q yn ceisio denu llongau tanfor i’r wyneb, ond byddai tactegau newydd yn eu rhwystro. Dim ond patrolio ymosodol y llongau hebrwng fyddai’n newid cwrs y rhyfel.
Mae’r Agberi yn gorwedd rhwng 91 a 110 metr o dan yr wyneb. Wrth i ddiwedd mis Rhagfyr agosáu, gadewch i ni gofio digwyddiadau’r un mis ym 1917 a oedd mor nodweddiadol o ddyfeisgarwch, dewrder ac aberth arswydus Brwydr Gyntaf Môr Iwerydd.
Gan Geoffrey Hicking, Gwirfoddolwr
Cyfeiriadau:
- Cowden, James E.; Duffy, John O. C. 1986. The Elder Dempster Fleet History: 1852-1985. James E. Cowden a John O. C. Duffy
- MerseySide Roll of Honour Database. ‘www.merseysiderollofhonour.co.uk’ www.merseysiderollofhonour.co.uk/obits/ships/agberi.htm
- Chatterton, E Keble. Q-Ships and their Story. A History of Decoy Vessels
Gellir cael rhestr lawn o gyfeiriadau drwy wneud cais.