Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018

  • Home 2
  • Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018

Category: Newyddion

HLF - SS Damao MBES s

Heddiw cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei bod yn rhoi grant o £409,700 ar gyfer prosiect partneriaeth y Comisiwn Brenhinol: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru, 1914-18. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, diolch i’r arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, fe fyddwn ni’n defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i ddatgelu llongddrylliadau tanddwr o’r Rhyfel Mawr ac yn rhoi cyfle i gymunedau ar hyd arfordir Cymru adrodd storïau nas clywyd o’r blaen am y Rhyfel Mawr ar y Môr.

Meddai Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: ‘Prosiect diddorol dros ben yw hwn sy’n ymdrin ag agwedd ar hanes Cymru nad yw llawer o bobl yn gwybod amdani. Ond diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, fe fydd y prosiect yn cyfuno’r dechnoleg ddiweddaraf â threftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ddarganfod rhan bwysig o orffennol Cymru sydd wedi cael ei hanghofio i raddau helaeth.’

Defnyddir arolygon geoffisegol morol i gasglu data cydraniad-uchel am nifer o longddrylliadau, ac i gynhyrchu ffilmiau fideo o ecoleg a bioamrywiaeth safleoedd y llongddrylliadau dan sylw. Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor a chynhelir Dyddiau Gweithgaredd Cymunedol ar thema’r Rhyfel Mawr yng Nghanolfan Forol Cymru, Porthaethwy. Drwy fenter Seasearch y Gymdeithas Cadwraeth Forol fe fyddwn ni’n casglu gwybodaeth ecolegol o’r llongddrylliadau. Fel rhan o’r prosiect, bydd y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yn darparu hyfforddiant mewn archaeoleg danddwr i ddeifwyr chwaraeon ar ddau safle yng ngogledd a gorllewin Cymru. Hefyd bydd rhwydwaith o amgueddfeydd yn ymgymryd â gweithgareddau yn ymwneud â’r Rhyfel Mawr ar y Môr yn ystod Blwyddyn y Môr Cymru, 2018.

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor (a fu’n arolygu arfordir Cymru fel rhan o’r prosiect SEACAMS2, a arweinir gan y Brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) hefyd yn gwneud arolygon o nifer o longddrylliadau ychwanegol ar hyd arfordir Cymru. Bydd data o’r arolygon hyn a’r gwaith sy’n deillio o’r prosiect o gryn fudd i gwmnïau egni adnewyddadwy morol gan y byddant yn dangos beth all ddigwydd pan osodir adeiladweithiau artiffisial yn yr un lleoliadau neu leoliadau cyffelyb ar wely’r môr.

Mae’r llun uchod a dynnwyd yn ystod y prosiect SEACAMS2 yn dangos delwedd ddiweddar o longddrylliad y DAMAO a suddwyd gan y llong danfor U-91 ar 28 Ebrill 1918. Adeiladwyd y llong ym 1911 i Gwmni Agerlongau’r Almaen-Awstralia, a’i henw gwreiddiol oedd y BRISBANE. Pan oedd y cwmni yn ei anterth ym 1914, roedd yn bumed cwmni llongau mwyaf yr Almaen. Cipiwyd y BRISBANE mewn porthladd ym Mhortiwgal ar ddechrau’r rhyfel a chafodd ei chymryd drosodd gan gwmni o eiddo’r wladwriaeth a’i hailenwi’n SS DAMAO.

Meddai Dr Michael Roberts, Rheolwr Ymchwil a Datblygu SEACAMS2: ‘Gan fod y gwaith yma mor unigryw, mae pawb sydd ynghlwm wrth yr arolygon, gan gynnwys criw’r llong ymchwil Prince Madog, ymchwilwyr a thechnegwyr, wedi mwynhau’n fawr yr arolygon rhagchwilio a wnaed hyd yma. Mae’r data rydyn ni’n ei gasglu yn amhrisiadwy i amrywiaeth eang o astudiaethau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r sector egni morol ac yn helpu i gynyddu ein dealltwriaeth, yn fwy cyffredinol, o brosesau morol ar hyd arfordir Cymru.’

Meddai Mark Beattie-Edwards, Prif Weithredwr y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol: ‘Mae’n dda gennym gyhoeddi y byddwn yn cynnal ysgol faes danddwr yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn ystod Blwyddyn y Môr, gan weithio gyda Chlwb Tanddwr Caer yn arbennig i archwilio llongddrylliad y CARTEGENA oddi ar Ynys Môn. Rydyn ni hefyd wrthi’n gwneud cynlluniau ar gyfer ysgol faes 2019 pan fyddwn yn astudio llongddrylliad y LEYSIAN. Mae’r croeso cynnes a gawsom gan bobl Abercastell yn Sir Benfro wedi gwneud cynllunio’r digwyddiad yma yn bleser pur.’

Meddai Deanna Groom, Uwch Ymchwilydd (Arforol) y Comisiwn Brenhinol: ‘Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ei chefnogaeth wrth i ni ddatblygu’r prosiect yma a hefyd i’r amgueddfeydd a grwpiau cymunedol sydd wedi dangos cymaint o ddiddordeb. Mae’r safleoedd hyn yn ingol ac atgofus. Maen nhw’n cynrychioli brwydrau bach a ymladdwyd ar y môr rhwng pobl a fyddai, mae’n siwr, heblaw am y rhyfel, wedi rhannu’r cwmnigarwch arbennig sydd i’w gael ymysg llongwyr.’

Prosiect cymunedol yw hwn a fydd yn cyflogi dau Swyddog Ymgysylltu Cymunedol i gynnal rhaglen o weithgareddau cymunedol yn amgueddfeydd môr Cymru, gan ddefnyddio Rhwydwaith Archifau Cymru. Byddant yn datblygu ‘Pecyn Offer Ymchwil Cymunedol’ a deunyddiau hyfforddi i ddysgu’r rheiny sy’n cymryd rhan yn y prosiect am gasgliadau mewn archifdai ac amgueddfeydd ac i’w cyfeirio at adnoddau ar-lein. Y deunydd a gynhyrchir gan y gweithgareddau hyn fydd sail arddangosfeydd teithiol a byddant ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru yn ogystal ag ar wefan y prosiect ei hun. Bydd yr adnoddau digidol ar-lein yn cynnwys ffilmiau tanddwr a modelau 3D o’r llongddrylliadau yn ogystal ag adnoddau dysgu i ysgolion yn ymwneud â rhyfela llongau tanfor a thechnoleg canfod sain. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn elfennau cymunedol y prosiect yn cael cyfle i ddangos eu gwaith yng Nghynhadledd y Prosiect ym mis Tachwedd 2018 a Gweithdy Gwaddol y Prosiect ym mis Medi 2019 yng Nghanolfan Forol Cymru, Prifysgol Bangor, Porthaethwy.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

Partneriaeth rhwng tri sefydliad yw’r prosiect: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (y Comisiwn Brenhinol), Prifysgol Bangor, a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol.

Y Comisiwn Brenhinol yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol. Bydd y Comisiwn Brenhinol yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae prosiect SEACAMS2, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, wedi’i leoli ym Mhrifysgol Bangor. Prosiect partneriaeth ydyw gyda Phrifysgol Abertawe. Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn gwneud ymchwil ar y cyd, gan gynnwys arolygon morol, i hybu twf cynaliadwy y sector egni adnewyddadwy morol yng Nghymru.

Sefydliad anllywodraethol yw’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol a ffurfiwyd i hyrwyddo addysg ym maes archaeoleg forwrol ar bob lefel drwy annog y cyhoedd i gymryd rhan ym mhob cam. Elusen gofrestredig ydyw sydd wedi’i lleoli yn y Deyrnas Unedig ond sydd â chysylltiadau cryf â phartner sefydliadau ym mhedwar ban byd.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Nicola Roberts, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru nicola.roberts@rcahmw.gov.uk  Ffôn: 01970 621248

Elinor Elis Williams, Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata, Prifysgol Bangor
press@bangor.ac.uk  Ffôn: 01248 383298

Ynghylch Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn buddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni – o’r archaeoleg o dan ein traed i’r parciau ac adeiladau hanesyddol a garwn, o atgofion a chasgliadau gwerthfawr i fywyd gwyllt prin. www.hlf.org.uk.  Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #HLFsupported.