
#MHPD – Llongau tanfor, Cymru a llongwyr o Orllewin Affrica

Ar ôl gweld ein postiad blog ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon fis Hydref diwethaf, a edrychodd ar y cysylltiadau rhwng y Rhyfel yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru a llongwyr o Orllewin Affrica, gofynnodd Liz Millman, o Learning Links International, i ni gyflwyno sgwrs yn yr 2il Symposiwm Rhyngwladol ar Hanes Pobl Groenddu a gynhaliwyd ym Mae Colwyn eleni. Mynychwyd y digwyddiad gan ddau o ddisgynyddion y Parch. William Hughes a sefydlodd y Sefydliad Affricanaidd ym Mae Colwyn ym 1885. Siaradodd Dr Marian Gwyn, Cydlynydd Cymru ar gyfer Mis Hanes Pobl Groenddu, am gefndir y Parch. Hughes yng Ngogledd Cymru a’i waith yn hyfforddi bechgyn Affricanaidd yn y Sefydliad. Siaradwr arall oedd Norbert Mbu-Mputu, a roddodd sgwrs am ei brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar hanes a gwaith y Sefydliad. Gobeithir y bydd y digwyddiad blynyddol hwn yn codi ymwybyddiaeth o hanesion Pobl Groenddu yng Ngogledd Cymru. I ddarganfod mwy ewch i: https://www.bhmnw.com/