Defnyddio Technegau Delweddu Newydd i Gofnodi Llong Danfor Almaenig Anghofiedig

  • Home 2
  • Defnyddio Technegau Delweddu Newydd i Gofnodi Llong Danfor Almaenig Anghofiedig

Defnyddio Technegau Delweddu Newydd i Gofnodi Llong Danfor Almaenig Anghofiedig

Category: Newyddion

Ar Ddydd Nadolig 1917, ymosododd yr U-87 ar gonfoi yn Sianel San Siôr (yn fwyaf arbennig ar yr AGBERI, agerlong Brydeinig 4812 o dunelli). Roedd un o’r llongau hebrwng yn y confoi, y P56, gwta 150 llath i ffwrdd o’r AGBERI pan gafodd ei tharo a throdd i fwrw i mewn i gorff y llong danfor, tra taniodd llong arall, y BUTTERCUP, arni a tharo’i thŵr llywio. Roedd y llong danfor wedi suddo o fewn 10 munud. Yn ôl rhai adroddiadau gan dystion fe gafodd yr U-87 ei thorri yn ei hanner. Fe arhosodd rhan flaen y llong ar wyneb y dŵr am 10 munud a gellid gweld dynion ar ei bwrdd.

Yn awr mae technegau delweddu newydd wedi lleoli’r llong danfor ac mae’r lluniau’n drawiadol o glir. Mae staff y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor wedi ymgymryd â nifer o arolygon ‘amlbaladr’ ar hyd arfordir Cymru yn ddiweddar fel rhan o’r prosiect egni adnewyddadwy morol SEACAMS 2. Mae’r data a gasglwyd wedi cael eu defnyddio i gynhyrchu modelau a delweddau o ansawdd uchel iawn o wely’r môr a safleoedd llongddrylliadau sydd o ddiddordeb, megis yr U-87. Rhagwelir y bydd canlyniadau’r gwaith hwn yn cyfrannu at nodau ac amcanion cyffredinol y prosiect Coffáu’r rhyfel anghofiedig yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru 1914-18: Archwilio, Mynediad ac Estyn-allan, y gwnaed cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am arian ar ei gyfer. Arweinydd y prosiect yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sydd â’i swyddfeydd yn Aberystwyth.

Meddai llefarydd ar ran y Comisiwn Brenhinol, “Mae’r arolygon mae Prifysgol Bangor yn eu gwneud yn gyffrous iawn. Am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd efallai, maen nhw’n rhoi cyfle i ni weld olion o’r rhan honno o’r Rhyfel Mawr a ymladdwyd ar hyd arfordir Cymru. Dyma’r cofebau tanddwr, cuddiedig , sy’n aml yn coffáu brwydrau unigol rhwng llongau masnach a llongau tanfor y gelyn. Mae hanes ingol yn perthyn i bob un a ddylai gael ei ailadrodd yn ystod y cyfnod Coffáu. Cafodd tua 170 o longau eu colli i ymosodiadau’r gelyn yn nyfroedd Cymru, ac mae yna lawer mwy o safleoedd ledled y byd lle suddwyd llongau yr oedd dynion a merched o Gymru ar eu bwrdd. Beddau rhyfel heb eu marcio ydy’r rhain. Ein nod ni yw talu teyrnged i’r rheiny a aberthodd eu bywydau adeg rhyfel.”

Er gwaethaf yr adroddiadau llygad-dyst, mae’r delweddau newydd o’r U-87 yn ei dangos yn gorwedd yn gyfan ar waelod y môr. Er i’r llong danfor gael ei thyllu, fe suddodd heb dorri’n ddarnau. Yn y ddelwedd isaf ar y dde, gellir gweld yr hollt mawr yng nghorff y llong danfor a wnaed gan y P56, yn gogwyddo’n ôl at y tŵr llywio. Ni ddihangodd y criw, felly mae’n bwysig cofio ein bod ni’n gweld bedd rhyfel yma a hynny am y tro cyntaf mewn canrif.

Drwy ei waith ymchwil mae’r Comisiwn Brenhinol wedi darganfod bod yr U-87 yn llong ymosod gefnforol a adeiladwyd  gan Kaiserliche Werft, Danzig. Cafodd ei chomisiynu ar 26 Chwefror 1917 o dan gapteniaeth KapLt Rudolf Schneider. Ar ôl cyfnod hyfforddi aeth ar batrôl bum gwaith, gan suddo tair llong ar hugain a difrodi dwy arall.

Ar ei phumed patrôl, a’r un olaf, gadawodd yr U-87 Wilhelmshaven ar 8 Rhagfyr 1917 gan anelu am ben gorllewinol Môr Udd drwy Gulfor Dofr. Suddodd dwy long hwylio fach ar y ffordd, ac yna ar Noswyl Nadolig fe suddodd y DAYBREAK, agerlong Brydeinig 3238 tunnell, oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon. Ar Ddydd Nadolig 1917 fe ymosododd yr U-87 ar gonfoi yn Sianel San Siôr (yn fwyaf arbennig ar yr AGBERI, agerlong Brydeinig 4812 o dunelli, gweler NPRN 274777). Roedd un o’r llongau hebrwng yn y confoi gwta 150 llath i ffwrdd o’r AGBERI pan gafodd ei tharo, a throdd i hwylio i mewn i’r llong danfor a’i suddo.

Mae llyfr log HMS BUTTERCUP, slŵp dosbarth Arabis, yn rhoi disgrifiad byr iawn o’r hyn a ddigwyddodd:

02:42 SS AGBERI wedi’i tharo gan dorpido.

03:30 Gwelwyd y llong danfor ar yr wyneb yn igam ogamu o amgylch yr AGBERI. Aeth HMS P56 amdani a’i bwrw hi. Taniodd BUTTERCUP gan daro’r tŵr llywio.

03:40 Suddodd yr SS AGBERI. Suddodd y llong danfor.

05:00 Ailymunwyd â’r confoi.

Mae mwy o wybodaeth yn yr adroddiad a gyflwynwyd gan y P56, fel y gellir gweld yn y ddelwedd isod (ADM137/4144, The National Archives Kew):

ADM_137_4147_001and2

Dyma restr o griw’r U-87 a gollwyd yn y frwydr: Adam, Friedrich; Andermann, Fr; Balleer, Max; Brandt, Johannes; Collinet, Joseph; Dahlmann, Friedrich; Dethloff, Otto; Dost, Fritz; Faßel, Herbert; Fimpler, Adolf; Gaßmann, P; Grill, Georg; Hansen, Robert; Heinrich, Freidrich; Hilgenberg, Karl; Hoffmann, Wilhelm; Hummel, Ernst; Jörgensen, J; Kloß, Karl; Koppehele, Fritz; Krimme, Otto; Kurth, Jakob; Labahn, Hans; Lehmann, Ernst; Lehmann, Walter; Ludwig, Edwin; Mrodzikowski, Anton; Patege, August; Petermann, Hermann; Preisker, Theodor; Reuting, Hermann; Schaff, Paul; Schnellke, Heinrich;  Siebel, Johann; Siebke, Gustav; Speth-Schülzburg, Rudolf Frhr. V.; Tetmeyer, Robert; Viebranz, R; Wandt, Kurt; Wille, Wilhelm; Willmer, Hubert; Wodrig, Franz; and Zander, Paul.

Delwedd o arolwg sonar amlbaladr o ardal tua deng milltir i’r gogledd-orllewin o Ynys Enlli sy’n datgelu llongddrylliad yr U-87 a gollwyd gyda’i holl griw ar Ddydd Nadolig 1917. Cafodd ei bwrw yn ei hochr gan un o longau Llynges Prydain yn fuan ar ôl iddi suddo llong nwyddau gerllaw.
Delwedd o arolwg sonar amlbaladr o ardal tua deng milltir i’r gogledd-orllewin o Ynys Enlli sy’n datgelu llongddrylliad yr U-87 a gollwyd gyda’i holl griw ar Ddydd Nadolig 1917. Cafodd ei bwrw yn ei hochr gan un o longau Llynges Prydain yn fuan ar ôl iddi suddo llong nwyddau gerllaw.

 

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gwefan: cbhc.gov.uk

Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, sy’n gyfrifol am brosiect SEACAMS 2 a gyllidir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn ymgymryd ag ymchwil ar y cyd, gan gynnwys arolygon morol, i hybu twf y sector egni adnewyddadwy morol yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Nicola Roberts, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
nicola.roberts@cbhc.gov.uk  Ffôn: 01970 621248

Elinor Elis Williams, Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata, Prifysgol Bangor
press@bangor.ac.uk  Ffôn: 01248 383298