Llong ysbyty gyda chysylltiadau cryf â Chaergybi yn cael ei diogelu dan y gyfraith

  • Home 2
  • Llong ysbyty gyda chysylltiadau cryf â Chaergybi yn cael ei diogelu dan y gyfraith
A docked ship with 2 funnels

Llong ysbyty gyda chysylltiadau cryf â Chaergybi yn cael ei diogelu dan y gyfraith

Category: Newyddion

 

Cafodd y llong ysbyty HMHS Anglia o’r Rhyfel Byd Cyntaf ei dynodi’n fedd rhyfel yn ddiweddar o dan Ddeddf Diogelu Olion Milwrol 1986. Mae hyn yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol i’r llongddrylliad. Mae deuddeg llong arall a suddwyd adeg rhyfel wedi’u hychwanegu eleni at y rhestri o longau milwrol sydd wedi’u diogelu. Mae hyn yn golygu bod 79 o longau a llongau tanfor wedi’u diogelu fel beddau rhyfel erbyn hyn. Mae’r dynodiad, a ddaeth i rym ar 3 Mawrth, yn golygu bod deifwyr yn gallu archwilio’r safle o hyd ond na chaniateir iddynt gyffwrdd ag unrhyw beth a ddarganfyddant na mynd ag ef i ffwrdd.

Agerlong oedd yr ‘Anglia’ a gawsai ei hadeiladu i Gwmni Rheilffordd Llundain a’r Gogledd-Orllewin, a bu’n gwasanaethu fel llong deithwyr rhwng Caergybi a Dulyn o 1900 hyd 1914. Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf allan, cafodd ei meddiannu gan y Morlys, ei throi’n llong ysbyty gynorthwyol a’i hailenwi’n HMHS (His Majesty’s Hospital Ship) Anglia.

Ar 17 Tachwedd 1915, trawodd yr HMHS Anglia (gweler y prif ffotograff uchod) ffrwydryn Almaenig ger Dofr, wrth gludo 390 o filwyr clwyfedig, staff meddygol a chriw o 56, y mwyafrif ohonynt o Gaergybi. Boddodd 164 o bobl pan suddodd y llong, gan gynnwys 23 o longwyr o Gaergybi. Roedd llawer o’r meirw yn ‘gleifion gorweddiog’ gydag anafiadau rhyfel difrifol iawn a’r nyrsys a oedd yn gofalu amdanynt.

Collwyd yr HMHS Anglia wyth diwrnod yn unig wedi i’w chwaer long, yr HMS Tara, gael ei suddo gan dorpido o long danfor Almaenig. Roedd pobl Caergybi yn dal i ddisgwyl newyddion am y criw o longwyr lleol a oedd ar fwrdd y Tara pan gyrhaeddodd y newyddion am suddo’r Anglia. Ar ôl i’r colledion o’r ddwy long gael eu cadarnhau, daeth yn hysbys bod 40 o ddynion y dref wedi’u lladd.

Map yn dangos y llongddrylliadau o’r Rhyfel Byd cyntaf a gaiff eu harolygu fel rhan o’r prosiect Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru: 1914-18
Map yn dangos y llongddrylliadau o’r Rhyfel Byd cyntaf a gaiff eu harolygu fel rhan o’r prosiect Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru: 1914-18

 

Fel rhan o’r prosiect ‘Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru: 1914-18’, gobeithiwn gynnig cipolwg manwl am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd ar weddillion llongau’r llynges fasnachol a’r llynges frenhinol a suddwyd gan longau tanfor yr Almaen ac sy’n dal i orwedd ar wely’r môr yn nyfroedd Cymru. Y bwriad yw ymgymryd ag arolygon geoffisegol morol a fydd yn cynnwys gwneud ffilmiau fideo tanddwr. Cyfunir y data hyn i greu modelau rhyngweithiol 3D ac animeiddiadau fel y bydd y cyhoedd yn gallu profi’r dreftadaeth gudd hon. Mae’r map uchod yn dangos yr 16 llongddrylliad o’r Rhyfel Byd Cyntaf a gaiff eu harolygu fel rhan o’r prosiect. Gallwn gadarnhau bellach y bydd 259 o fywydau’n cael eu coffáu’n uniongyrchol o ganlyniad i’r gwaith hwn.

Mae’r llongau hyn wedi bod o dan y dŵr ac yn dirywio am tua 100 mlynedd. Mae tystiolaeth o ddyfroedd yr Alban a Lloegr yn awgrymu bod adeiladwaith llawer ohonynt ar fin dymchwel. Efallai mai’r prosiect hwn fydd y cyfle olaf i gofnodi’r llongau coll hyn mewn cyflwr gweddol gyflawn. Yn achos yr HMHS Anglia, gwnaed arolwg gan English Heritage ym mis Hydref 2014 i ddarganfod ei hunion leoliad a chyflwr. Roedd yn hanfodol i’r wybodaeth hon gael ei chasglu er mwyn iddi gael ei hystyried ar gyfer dynodiad o dan y Ddeddf.

 

Delwedd aml-baladr o’r arolwg o’r HMHS Anglia a wnaed gan Wessex Archaeology ar ran English Heritage, 2014
Delwedd aml-baladr o’r arolwg o’r HMHS Anglia a wnaed gan Wessex Archaeology ar ran English Heritage, 2014

 

Bydd yr arolygon a wnawn o longddrylliadau o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn nyfroedd Cymru yn ein galluogi i gynhyrchu setiau data ac adroddiad i Lywodraeth Cymru yn cynnwys argymhellion ar gyfer rheoli a monitro llongddrylliadau yn y dyfodol. Hefyd bydd modd awgrymu i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ddetholiad o longau y gellid ystyried eu hychwanegu at y Gofrestr o Olion Milwrol a Ddiogelir.

Darllen pellach:

Adroddiad y BBC ar ddynodi’r HMHS Anglia, 23 Chwefror 2017: http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-kent-39065046 

Adroddiad yr Arolwg Geoffisegol Morol o’r HMHS Anglia ar gyfer English Heritage, 2014: http://www.wessexarch.co.uk/reports/83803/hmhs-anglia

Cafodd angor y llong ei achub o wely’r môr ac fe’i harddangosir ar Draeth Newry, Caergybi. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yno yn 2015. Mae gan Amgueddfa Arforol Caergybi gofnod o’r gwasanaeth hwn: https://www.flickr.com/photos/holyheadmaritimemuseum/16439092917/in/album-72157631255006052/

Mae’r prif ffotograff (brig) yn dangos yr HMHS Anglia wrth iddi suddo. O gasgliadau’r Amgueddfa Reilffyrdd Genedlaethol ac wedi’i atgynhyrchu yma o dan y drwydded CC BY-NC-SA. © Amgueddfa Reilffyrdd Genedlaethol SSPL 1997-7409_LMS_3327. Cyswllt i’r gwreiddiol: http://www.nrm.org.uk/ourcollection/photo?group=Euston&objid=1997-7409_LMS_3327

Adroddiad y North Wales Chronicle ar y trychineb, 19 Tachwedd 1917:

http://newspapers.library.wales/view/4243222/4243227/56/

Byddwn yn postio mwy o flogiau fel rhan o’r prosiect: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914­-18. Darllenwch bostiadau blaenorol yma:

 

Galwad am gyfraniadau: os oes gennych unrhyw wybodaeth, dogfennau neu ffotograffau’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar y prosiect hwn, neu os hoffech gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â ni.