
Wyneb yn wyneb â llongwyr o Gymru a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr
Yn ddiweddar, cafodd Deanna Groom, Swyddog Arforol y Comisiwn Brenhinol, y fraint o astudio sampl o’r cardiau cofnod cynnar yng Nghofrestr Fynegeiedig Ganolog y Llongwyr Masnachol sydd bellach yng ngofal Archifau Southampton. Ar y cardiau CR10 printiedig hyn cofnodir gwybodaeth am ein hynafiaid a fu ar y môr ac am y llongau y buont yn gweithio arnynt, rhai ohonynt yn ystod y Rhyfel Mawr.
Mae’r cardiau CR10 yn nodi enw’r llongwr, dyddiad a lle ei eni, ei swydd ar y llong, a’r tystysgrifau cymhwysedd yr oedd wedi’u hennill. Mae ar rai ohonynt ddisgrifiad corfforol hefyd, er enghraifft, taldra, lliw gwallt a llygaid, a manylion tatŵau.
Mae pob haen o griw llong wedi’i chynrychioli, o gapten i stiward y caban, o beiriannydd i griw y dec. Ceir ffotograffau maint pasbort ar gefn rhai o’r cardiau – dangosir enghreifftiau ohonynt isod.
Mae’r cardiau cofnod yn cynnwys un ar gyfer Arthur Claude Evans, a fu’n gwasanaethu ar y CORINTHIC, un o longau’r White Star Line, wedi iddi gael ei chymryd drosodd o dan y Cynllun Hawlio Llongau Teithio ym 1917. Roedd Arthur Evans yn hanu o Aberteifi a gadawodd ef y llong ym mis Hydref 1918.
Mae cofnod arall yn dangos i Edward Richard Ellis, o’r Trallwng, wasanaethu ar yr ADRIATIC, un o longau eraill y White Star Line. Cafodd yr ADRIATIC ei defnyddio i gludo milwyr Prydeinig a thrwy lwc ni ddioddefodd unrhyw ddifrod yn ystod y rhyfel.
Ar gerdyn arall nodir bod Ben Idris Evans, o Fargod, yn gwasanaethu ar yr HATANO, treill-long ager o eiddo cwmni Neale & West o Gaerdydd. Roedd yn 17 mlwydd oed.
‘Mae dod wyneb yn wyneb â morwyr a fu’n byw dan fygythiad cyson llongau tanfor yr Almaen wrth wneud eu gwaith pob dydd yn peri i rywun deimlo’n wylaidd iawn,’ meddai Deanna Groom. ‘Rydym ni’n ymchwilio i’r llongau a gollwyd ar gyfer ein prosiect – Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18 – ac mae’r wybodaeth ar y cardiau yn ein hatgoffa’n ddwys iawn o effaith y rhyfel ar unigolion a’u cymunedau yma yng Nghymru.’
I ddysgu mwy am Gofrestr Fynegeiedig Ganolog y Llongwyr Masnachol, dilynwch y cyswllt hwn i Archifau Southampton:
Ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn Brenhinol, mewn partneriaeth ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol, yn gweithio i ddatblygu prosiect coffáu sy’n canolbwyntio ar y 170 o longau a suddwyd gan y gelyn ar hyd arfordir Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr. Ariannwyd y gwaith datblygu yn garedig iawn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
https://heritageofwalesnews.blogspot.co.uk/2016/05/royal-commission-gains-heritage-lottery.html
Cofio’r rheiny a roddodd eu bywydau dros eu gwlad ac nad oes iddynt fedd ond y môr.
https://www.peoplescollection.wales/collections/415321